bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
1 Peter 1
1 Peter 1
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 2 →
1
Pedr, apostol Iesu Grist, at ddieithriaid y Gwasgariad ym Mhontus, Galatia, Capadocia, Asia a Bithynia,
2
etholedigion yn ôl rhagwybodaeth Duw Dad, drwy sancteiddiad yr Ysbryd, i ufudd-dod a thaenelliad gwaed Iesu Grist. Amlhaer gras a thangnefedd i chwi.
3
Bendigedig fo Duw a Thad ein Harglwydd ni Iesu Grist, yr hwn, yn ôl ei fawr drugaredd, a’n hadgenhedlodd ni i obaith byw drwy atgyfodiad Iesu Grist oddi wrth y meirw,
4
i etifeddiaeth anllygredig a dihalogedig ac anniflanedig y sydd ynghadw yn y nefoedd i chwi,
5
y rhai yng ngallu Duw a warchedwir drwy ffydd i gadwedigaeth, barod i’w datguddio yn yr amser diwethaf.
6
Yn hyn yr ydych yn gorfoleddu, er eich bod yn awr os rhaid yw, wedi eich dwyn i dristwch dros ychydig, oherwydd amrywiol brofedigaethau,
7
fel yn y prawf y caffer eich ffydd chwi’n fwy gwerthfawr nag aur sy’n darfod, er ei buro drwy dân, er mawl a gogoniant ac anrhydedd yn natguddiad Iesu Grist.
8
Hwn, er nas gwelsoch yr ydych yn ei garu, a chan gredu ynddo, heb fod yn awr yn ei weled, yr ydych yn gorfoleddu â llawenydd anhraethadwy a gogoneddus,
9
gan dderbyn diwedd y ffydd, sef iachawdwriaeth eneidiau —
10
yr iachawdwriaeth yr ymofynnodd ac y dyfal-chwiliodd amdani broffwydi a broffwydodd am y gras a drefnwyd i chwi,
11
gan chwilio at bwy neu at ba fath adeg y cyfeiriai Ysbryd Crist a oedd ynddynt, pan oedd ef yn rhagdystiolaethu am ddioddefiadau Crist a’r gogoniannau a’u dilynai;
12
i’r rhai y datguddiwyd nad iddynt hwy eu hunain ond i chwi yr oeddynt yn gweinyddu’r pethau hyn sy’n awr wedi eu hysbysu i chwi drwy’r rhai a gyhoeddodd yr Efengyl i chwi drwy’r Ysbryd Glân a ddanfonwyd o’r nef, pethau y mae angylion yn chwenychu syllu arnynt.
13
Am hynny, gan wregysu lwynau eich meddwl, byddwch sobr, a gosodwch eich gobaith yn gwbl ar y gras a ddygir i chwi yn natguddiad Iesu Grist,
14
fel plant ufudd-dod, heb gydymffurfio â’ch blysiau yn eich anwybodaeth gynt;
15
eithr yn ôl patrwm y sanctaidd a’ch galwodd, byddwch chwithau hefyd sanctaidd ym mhob ymddygiad,
16
canys y mae’n ysgrifenedig: Chwi a fyddwch sanctaidd, oherwydd yr wyf fi’n sanctaidd.
17
Ac os ar Dad yr ydych yn galw, sy’n barnu’n ddidderbyn wyneb yn ôl gweithred pob un, ymddygwch mewn ofn dros amser eich pererindod,
18
gan wybod nad â phethau llygradwy, arian neu aur, y’ch prynwyd oddi wrth eich ofer ymarweddiad a drosglwyddwyd i chwi oddi wrth eich tadau,
19
eithr â gwerthfawr waed un sydd megis oen dianaf a difrychau, sef Crist,
20
yr hwn a ragwybuwyd cyn sylfaenu’r byd, ond a amlygwyd yn niwedd yr amseroedd er eich mwyn chwi,
21
y sydd trwyddo ef yn ffyddlon i Dduw, yr hwn a’i cyfododd ef oddi wrth y meirw ac a roes iddo ogoniant, fel y byddai eich ffydd chwi a’ch gobaith yn Nuw.
22
Wedi glanhau eich eneidiau trwy ufudd-dod i’r gwirionedd i frawdgarwch diffuant, cerwch eich gilydd o’r galon yn selog,
23
wedi eich hadgenhedlu nid o had llygradwy eithr drwy air anllygradwy Duw sy’n byw ac yn parhau.
24
Canys: Pob cnawd, fel glaswelltyn yw, A’i holl ogoniant fel blodeuyn glaswelltyn. Gwywodd y glaswelltyn, A syrthiodd y blodeuyn.
25
Ond gair yr Arglwydd sy’n parhau dros byth.A hwn yw’r gair, sef yr Efengyl a gyhoeddwyd i chwi.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5