bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
1 Peter 5
1 Peter 5
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
1
Cynghori yr wyf, felly, yr henuriaid yn eich plith, fel cyd-henuriad a thyst o ddioddefiadau’r Crist, un sydd hefyd yn gyfrannog o’r gogoniant sydd i’w ddatguddio.
2
Bugeiliwch braidd Duw yn eich mysg, nid wrth orfod eithr o’ch gwirfodd yn ôl Duw, nid yn budrelwa ond yn ewyllysgar,
3
nid ychwaith fel rhai’n tra-arglwyddiaethu ar y rhai sydd dan eu gofal, ond gan fod yn batrwm i’r praidd.
4
A phan ymddangoso’r Pen-bugail, cewch dderbyn. coron anniflanedig y gogoniant.
5
Yr un modd, yr ieuainc, ymostyngwch i henuriaid; ie, bawb ohonoch, ymwregyswch â gostyngeiddrwydd tuag at eich gilydd, oherwydd y mae Duw yn erbyn yr uchel eu bryd, ond i’r gostyngedig dyry ras.
6
Ymostyngwch, gan hynny, dan nerthol law Duw, fel y’ch dyrchafo pan ddelo’r adeg,
7
gan fwrw eich holl ofal arno ef, canys y mae ef yn gofalu drosoch chwi.
8
Byddwch sobr, byddwch effro. Y mae eich gwrthwynebwr diafol yn rhodio oddi amgylch megis llew yn rhuo, gan geisio pwy i’w lyncu.
9
Gwrthwynebwch ef yn gadarn yn y ffydd, gan wybod mai’r unrhyw ddioddefiadau yw rhan eich brodyr yn y byd.
10
A Duw pob gras, yr hwn a’ch galwodd chwi i’w dragwyddol ogoniant yng Nghrist, ei hun a’ch cyweiria, a’ch cadarnha, a’ch nertha, a’ch sefydla, wedi dioddef ohonoch dros ychydig.
11
Iddo ef y bo’r gallu dros byth. Amen.
12
Ysgrifennais atoch mewn ychydig eiriau drwy law Silfanus, brawd ffyddlon, fel y credaf, gan gynghori a thystiolaethu mai hwn yw gwir ras Duw. Sefwch ynddo.
13
Y mae’r hon sydd gydetholedig â chwi ym Mabilon yn eich annerch, a Marc fy mab.
14
Anerchwch eich gilydd â chusan cariad. Tangnefedd i chwi, bawb y sydd yng Nghrist.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
All chapters:
1
2
3
4
5