bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
1 Peter 3
1 Peter 3
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 4 →
1
Yr un modd, ymostynged gwragedd i’w gwŷr priod, fel, os oes rhywrai’n anufuddhau i’r gair, yr eniller hwy, heb air, drwy rodiad y gwragedd,
2
wedi canfod ohonynt eich rhodiad glân mewn ofn.
3
Ac na boed iddynt yr addum allanol o blethu gwallt a gwisgo tlysau aur neu ymddilladu â gynau,
4
eithr dirgel ddyn y galon yn niwyg anllygradwy ysbryd addfwyn a thawel, y sydd yng ngolwg Duw o ddirfawr werth.
5
Canys felly hefyd yr addurnai eu hunain gynt y gwragedd sanctaidd a obeithiai yn Nuw, ac ymddarostwng i’w gwŷr priod,
6
megis yr oedd Sara yn ufudd i Abram, a’i alw ef yn arglwydd, i’r hon y daethoch yn blant wrth wneuthur da a heb ofni dim dychryn.
7
Y gwŷr, yr un modd, yn cyd-fyw â’r wraig yn ddeallus, megis â gwannach llestr, a rhoddi parch megis i rai sydd hwythau’n gyd-etifeddion gras bywyd, fel na rwystrer eich gweddïau chwi.
8
Yn olaf, boed pawb yn unfryd, yn cydymdeimlo, yn frawdol, yn dynergalon, yn ostyngedig,
9
nid yn talu’n ôl ddrwg am ddrwg, neu sen am sen, eithr i’r gwrthwyneb yn bendithio, canys i hyn y’ch galwyd fel yr etifeddoch fendith.
10
Canys yr hwn sy’n ewyllysio caru bywyd a gweled dyddiau da, atalied y tafod rhag drwg a’r gwefusau rhag dywedyd twyll,
11
cilied oddi wrth ddrwg a gwnaed dda, ceisied heddwch a dilyned ef.
12
Oblegid llygaid yr Arglwydd sydd ar y cyfiawn a’i glustiau ef tuag at eu deisyfiad hwynt, ond wyneb yr Arglwydd sydd yn erbyn y rhai a wna ddrwg.
13
A phwy a’ch dryga chwi os byddwch selog dros y da?
14
Ond hyd yn oed pe dioddefech er mwyn cyfiawnder, gwyn eich byd. Nac ofnwch eu hofn hwynt ac na chyffroer chwi,
15
eithr sancteiddiwch yn eich calonnau yr Arglwydd, sef y Crist, gan fod yn wastad yn barod i amddiffyn, i’r neb a gais gyfrif gennych, am y gobaith y sydd ynoch, eto gydag addfwynder ac ofn,
16
a chennych gydwybod dda, fel yn yr hyn y’ch gogenir y cywilyddier y rhai sy’n cyhuddo ar gam eich rhodiad da chwi yng Nghrist.
17
Canys gwell yw i rai ddioddef, os ewyllys Duw a’i myn, wrth wneuthur da nag wrth wneuthur drwg;
18
oherwydd bu Crist hefyd farw unwaith am bechodau, y cyfiawn dros rai anghyfiawn, fel y dygai chwi at Dduw, wedi ei wneuthur yn farw yn y cnawd, ond ei fywhau yn yr ysbryd;
19
trwy yr hwn hefyd yr aeth a phregethu i’r ysbrydion yng ngharchar
20
a fu’n anufudd gynt pan ddisgwyliai hir amynedd Duw wrthynt yn nyddiau Noa tra adeiledid yr arch, i’r hon yr achubwyd ychydig, sef wyth enaid, trwy ddwfr.
21
Copi ohono sy’n awr yn eich achub chwithau, sef bedydd, nid bwrw ymaith fudredd cnawd, eithr ymofyn am gydwybod dda tuag at Dduw drwy atgyfodiad Iesu Grist,
22
yr hwn sydd ar ddeheulaw Duw, wedi iddo fyned i mewn i’r nef a darostwng iddo angylion ac awdurdodau a phwerau.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5