bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
2 Peter 1
2 Peter 1
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 2 →
1
Simeon Pedr, caethwas ac apostol Iesu Grist, at y rhai a dderbyniodd ffydd gyfwerth â’r eiddom ni trwy gyfiawnder ein Duw ni a’n Hachubwr Iesu Grist.
2
Amlhaer gras a thangnefedd i chwi mewn adnabyddiaeth o Dduw ac o Iesu ein Harglwydd ni.
3
Yn gymaint ag y rhoes ei ddwyfol allu ef inni bopeth tuag at fywyd a duwioldeb, trwy adnabyddiaeth o’r hwn a’n galwodd ni trwy ei ogoniant ef ei hun a’i rinwedd,
4
a rhoddi inni drwy’r rhain addewidion gwerthfawr a mawr iawn, er mwyn i chwi drwy’r rhai hyn ddyfod yn gyfrannog o anian ddwyfol, wedi dianc rhag y llygredd y sydd yn y byd trwy drachwant — ie,
5
o achos hyn ynddo’i hun, gan weithredu pob dyfalwch, darperwch drwy eich ffydd rinwedd, a thrwy rinwedd wybodaeth,
6
a thrwy wybodaeth hunanlywodraeth, a thrwy hunanlywodraeth amynedd, a thrwy amynedd dduwioldeb,
7
a thrwy dduwioldeb frawdgarwch, a thrwy frawdgarwch gariad.
8
Canys â’r pethau hyn yn gynhysgaeth i chwi ac yn amlhau, y maent yn peri nad ydych yn segur nac ychwaith yn ddiffrwyth mewn adnabyddiaeth o’n Harglwydd ni Iesu Grist.
9
Canys yr hwn nid yw’r pethau hyn ganddo, dall ydyw, byr ei olwg, wedi gollwng dros gof lanhau ei bechodau gynt.
10
Am hynny’n fwy, frodyr, byddwch ddyfal i wneuthur yn sicr eich galwad a’ch etholedigaeth, canys wrth wneuthur y pethau hyn ni lithrwch ddim byth.
11
Canys felly’n helaeth y darperir i chwi fynediad i mewn i deyrnas dragwyddol ein Harglwydd ni a’n Hachubwr Iesu Grist.
12
Oherwydd paham bwriadaf eich atgoffa’n wastad am y pethau hyn, er gwybod ohonoch ac er eich sefydlu yn y gwirionedd y sydd gyda chwi.
13
A barnaf mai iawn, tra fyddwyf yn y babell hon, yw eich cyffroi chwi trwy eich hatgoffa,
14
a mi’n gwybod y bwrir heibio’r babell hon yn fuan, megis hefyd yr amlygodd ein Harglwydd ni Iesu Grist i ni.
15
A gofalaf hefyd eich bod bob amser wedi fy ymadawiad yn gallu dwyn y pethau hyn ar gof.
16
Canys nid trwy lynu wrth chwedlau cywrain yr hysbysasom i chwi nerth ein Harglwydd ni Iesu Grist a’i ddyfodiad, eithr wedi dyfod yn llygad-dystion o’i fawrhydi ef.
17
Canys derbyniodd oddi wrth Dduw Dad anrhydedd a gogoniant, pan ddaeth ato’r fath lef oddi wrth y mawr-ragorol ogoniant: “Fy mab, fy anwylyd yw hwn, yr ymddigrifais ynddo”
18
— a dyna’r llef a glywsom ni’n dyfod allan o’r nef, pan oeddem gydag ef yn y mynydd sanctaidd.
19
Ac y mae gennym yn sicrach air y proffwydi, y gwnewch yn dda drwy ddal arno, megis ar gannwyll yn llewyrchu mewn lle tywyll, hyd oni wawrio’r dydd a chodi o’r seren fore yn eich calonnau chwi;
20
gan wybod hyn yn gyntaf peth, nad oes un broffwydoliaeth o Ysgrythur
21
yn dyfod dan ddehongliad priod. Canys nid trwy ewyllys dyn y daeth proffwydoliaeth gynt, ond dynion a lefarodd oddi wrth Dduw dan ddylanwad ysgubol yr Ysbryd Glân.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3