bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
2 Peter 3
2 Peter 3
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
1
Hwn yw’r ail epistol yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, anwyliaid, ac ynddynt yr wyf yn cyffroi trwy atgof eich meddwl didwyll,
2
fel y cofioch y geiriau a ragddywedwyd gan y proffwydi sanctaidd, a gorchymyn apostolion eich Arglwydd a’ch Achubwr,
3
gan wybod hyn yn gyntaf peth, y daw yn y dyddiau diwethaf watwarwyr gyda gwatwar yn rhodio yn ôl eu blysiau eu hunain
4
a dywedyd: “Pa le y mae’r addewid am ei ddyfodiad ef? Canys er pan hunodd y tadau, y mae popeth yn aros fel yr oedd er dechrau’r cread.”
5
Canys o’u gwirfodd anghofiant hyn, sef mai trwy air Duw yr oedd y nefoedd er cynt a’r ddaear yn gyfansawdd o ddwfr a thrwy ddwfr —
6
trwy ddyfroedd y gorlifwyd y byd a oedd y pryd hwnnw a’i ddinistrio.
7
Trwy’r un gair y mae’r nefoedd y sydd yn awr a’r ddaear wedi eu hystorio a’u cadw i dân erbyn dydd barn a dinistr dynion annuwiol.
8
Ond nac anghofiwch, anwyliaid, yr un peth hwn, sef bod un dydd gyda’r Arglwydd fel mil o flynyddoedd a mil o flynyddoedd fel un dydd.
9
Nid araf yw’r Arglwydd ynglŷn â’i addewid, fel y cyfrif rhai arafwch, eithr hirymarhous yw tuag atoch chwi, heb ewyllysio dinistr neb, ond cyrchu o bawb at edifeirwch.
10
Ond daw dydd yr Arglwydd megis lleidr, yn yr hwn yr â’r nefoedd heibio gyda thwrw, ac y datodir yr elfennau gan wres, ac y datguddir y ddaear a’r gwaith y sydd ynddi.
11
A’r holl bethau hyn yn ymddatod felly, pa fath rai a ddylech chwi fod mewn sanctaidd rodiad a duwioldeb,
12
yn disgwyl ac yn prysuro dyfodiad dydd Duw, oherwydd yr hwn y datodir y nefoedd gan dân, ac y toddir yr elfennau gan wres?
13
Eithr nefoedd newydd a daear newydd yn ôl ei addewid ef yr ydym ni yn eu disgwyl, yn y rhai y trig cyfiawnder.
14
Gan hynny, anwyliaid, a chwi yn disgwyl y pethau hyn, byddwch ddyfal i’ch cael ganddo ef mewn tangnefedd yn ddifrychau ac yn ddifai,
15
a chyfrifwch yn iachawdwriaeth hirymaros ein Harglwydd ni, megis hefyd yn ôl y ddoethineb a roed iddo y sgrifennodd ein hannwyl frawd Paul atoch chwi, ac ef yn llefaru am y pethau hyn,
16
fel yn ei holl epistolau hefyd, yn y rhai y mae rhai pethau anodd eu deall, pethau y mae’r di-ddysg a’r anwadal yn eu gŵyrdroi i’w dinistr eu hunain, megis hefyd yr ysgrythurau eraill.
17
Chwychwi, gan hynny, anwyliaid, yn rhagwybod, gwyliwch rhag eich ysgubo i ffwrdd gan gyfeiliornad yr anwir, a syrthio ymaith oddi wrth eich sefydlogrwydd eich hunain,
18
ond cynyddwch yng ngras a gwybodaeth ein Harglwydd a’n Hachubwr ni Iesu Grist. Iddo ef y bo’r gogoniant yn awr a hyd byth.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
All chapters:
1
2
3