bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
2 Peter 2
2 Peter 2
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
1
Ond bu proffwydi gau hefyd ymhlith y bobl, megis y bydd gau-athrawon yn eich plith chwithau, y rhai’n ddirgel a ddygant i mewn heresïau dinistriol, gan wadu hyd yn oed y Meistr a’u prynodd hwynt, a chan ddwyn arnynt eu hunain ddinistr buan;
2
ac fe ddilyn llawer eu gweithredoedd anllad hwynt, oherwydd y rhai y ceblir ffordd y gwirionedd.
3
Ac yn eu trachwant gwnânt farsiandïaeth ohonoch chwi â geiriau ffuantus. Eu dedfryd hwy ers talm nid oeda, a’u dinistr nid yw’n hepian.
4
Canys onid arbedodd Duw angylion a bechodd, eithr eu hyrddio i uffern a’u trosglwyddo i bydewau tywyllwch i’w diogelu i aros barn,
5
ac onid arbedodd yr hen fyd, eithr diogelodd Noa, cyhoeddwr cyfiawnder, a saith eraill, a dwyn dilyw ar fyd o annuwiolion,
6
a chan droi dinasoedd Sodom a Gomorra yn lludw, eu condemnio i ddinistr, gan eu gosod yn esiampl i rai oedd ar fedr ymroi i annuwioldeb,
7
a gwaredu Lot gyfiawn, a drallodid gan rodiad anllad yr anwir —
8
canys yn gweled ac yn clywed, y cyfiawn hwn, ac ef yn trigo yn eu mysg, oedd o ddydd i ddydd yn dirdynnu ei enaid cyfiawn oherwydd eu gweithredoedd di-ddeddf —
9
gŵyr yr Arglwydd pa fodd i waredu’r duwiol allan o brofedigaeth, ac i gadw’r anghyfiawn dan gosb hyd ddydd barn,
10
ac yn arbennig y rhai sy’n rhodio ar ôl y cnawd, ym mlys aflendid, ac yn diystyru arglwyddiaeth. Gwŷr haerllug, trahaus, nid arswydant pan gablont bwerau gogoneddus,
11
pan nad yw angylion, er eu bod yn rhagori mewn nerth a gallu, yn dwyn o flaen yr Arglwydd farn sarhaus yn eu herbyn hwynt.
12
Ond y rhain, megis creaduriaid direswm, wedi eu creu wrth natur i’w dal a’u dinistrio, trwy gablu pethau na wyddant ddim oddi wrthynt, a ddinistrir hefyd yn eu dinistr hwynt,
13
gan dderbyn cam fel cyflog anghyfiawnder. A hwy’n cyfrif miri liw dydd yn felyswedd, brychau a meflau ydynt, yn gloddesta yn eu hudoliaethau eu hunain pan gydwleddant â chwi,
14
a chanddynt lygaid yn llawn anlladrwydd ac anniwall yn eu pechod, yn llithio eneidiau anwadal, a chanddynt galon wedi ei harfer i drachwant, plant melltith.
15
Gadawsant ffordd uniawn ac aethant ar gyfeiliorn a glynu wrth ffordd Balam, fab Beor, a garodd gyflog anghyfiawnder,
16
ond a gafodd gerydd am ei drosedd: llefarodd asen fud â llais dyn, ac ataliodd orffwylledd y proffwyd.
17
Pydewau di-ddwfr yw’r rhain, a niwloedd a yrrir gan dymestl, y mae yng nghadw iddynt ddüwch y tywyllwch.
18
Canys gan lefaru chwyddedig eiriau gwagedd llithiant trwy flysiau’r cnawd, trwy weithredoedd anllad, y rhai nad ydynt ond prin ddianc oddi wrth y sawl a rodia ar gyfeiliorn,
19
gan addo rhyddid iddynt a hwy eu hunain yn gaethion llygredigaeth; canys pa beth bynnag y gorchfygwyd neb ganddo y mae ef yn gaeth i hwnnw.
20
Canys os wedi iddynt ddianc rhag halogedigaethau’r byd drwy adnabyddiaeth o’r Arglwydd a’r Achubwr Iesu Grist, y meglir hwynt drachefn gan y pethau hyn a’u gorchfygu, y mae eu diwedd yn waeth na’u dechreuad.
21
Canys gwell fuasai iddynt fod heb adnabod ffordd cyfiawnder nag wedi ei hadnabod, droi’n ôl oddi wrth y gorchymyn sanctaidd a draddodwyd iddynt.
22
Daeth i ben ynddynt y gair hwnnw o’r wir ddihareb, ci wedi dychwelyd at ei chwydiad ei hun, a hwch wedi ymolchi ohoni, at ymdreiglfa’r dom.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3