bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
2 Thessalonians 1
2 Thessalonians 1
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 2 →
1
Pawl a Silfan a Thimotheus at eglwys y Thesaloniaid yn Nuw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist.
2
Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw Dad a’r Arglwydd Iesu Grist.
3
Dylem, frodyr, ddiolch yn wastadol i Dduw amdanoch, fel y mae yn gweddu inni, oherwydd dirfawr gynnydd eich ffydd a bod cariad pob un ohonoch tuag at ei gilydd yn ymhelaethu,
4
fel yr ymffrostiwn ninnau ynoch yn eglwysi Duw am eich amynedd a’ch ffydd yn eich holl erledigaethau a’r blinderau a ddioddefwch.
5
Prawf ydynt o farn gyfiawn Duw i’ch gwneuthur chwi’n deilwng o deyrnas Dduw, y dioddefwch er ei mwyn; yn gymaint
6
â’i bod yn gyfiawn gan Dduw ad-dalu blinder i’r rhai a’ch blina chwi,
7
a gollyngdod i chwithau, a flinir ynghyda ninnau, yn natguddiad yr Arglwydd Iesu o’r nef gydag angylion Ei nerth,
8
mewn tân fflam, i ddial ar y rhai nad adwaenant Dduw ac nad ufuddhânt i efengyl ein Harglwydd Iesu.
9
Eu cosb fydd dinistr bythol allan o wyddfod yr Arglwydd ac o ogoniant Ei nerth Ef
10
pan ddêl i’w ogoneddu yn Ei saint, ac i’w ryfeddu yn y rhai oll a gredodd, oblegid credwyd ein tystiolaeth i chwi, yn y dydd hwnnw.
11
Er mwyn hyn y gweddïwn hefyd yn wastadol drosoch, ar i’n Duw eich gwneuthur yn deilwng o’i alwad a chyflawni trwy Ei nerth bob awyddfryd daionus a gwaith ffydd ynoch,
12
fel y gogonedder enw ein Harglwydd Iesu ynoch chwi, a chwithau ynddo yntau, yn ôl gras ein Duw a’r Arglwydd Iesu Grist.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3