bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
2 Thessalonians 3
2 Thessalonians 3
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
1
Yn ddiwethaf, gweddïwch, frodyr, drosom ni, ar i air yr Arglwydd fyned rhagddo a chael ei fawrygu, megis gyda chwi,
2
ac ar i ninnau gael ein gwaredu rhag dynion gwrthnysig a drwg; canys nid yw’r ffydd gan bawb.
3
Ond ffyddlon yw yr Arglwydd: Ef a’ch cadarnha chwi ac a’ch amddiffyn rhag yr Un drwg.
4
Y mae gennym hyder ynoch yn yr Arglwydd, eich bod yn gwneuthur a orchmynnwn, ac y gwnewch.
5
A chyfeiried yr Arglwydd eich calonnau at gariad Duw ac at amynedd Crist.
6
Ond gorchmynnwn i chwi, frodyr, yn enw’r Arglwydd Iesu Grist, ymgadw oddi wrth bob brawd sy’n byw’n segur yn lle dilyn y rheol a dderbyniasoch gennym ni.
7
Chwi a wyddoch y dylech ein hefelychu ni: canys ni buom segur yn eich mysg.
8
Ni fwytasom fara neb heb ei ennill, eithr gweithio nos a dydd mewn diwydrwydd a lludded, rhag pwyso ar neb ohonoch.
9
Nid am nad oes gennym hawl, ond i roddi esiampl i chwi i’n hefelychu.
10
Yn wir, pan oeddem gyda chwi rhoesom i chwi y gorchymyn “Y neb na fynno weithio, na fwytaed chwaith.”
11
Canys clywn fod rhai yn eich plith yn byw’n segur heb weithio dim, ond busnesa.
12
Gorchmynnwn a chymhellwn y cyfryw yn yr Arglwydd Iesu Grist i weithio’n dawel ac ennill eu bywoliaeth.
13
Ond chwychwi, frodyr, na ddiffygiwch yn gwneuthur da.
14
Ac os gwrthyd neb ufuddhau i’n geiriau yn y llythyr, nodwch hwnnw; na chymdeitheswch ag ef, fel y cywilyddio.
15
Ac eto, nac ystyriwch ef fel gelyn ofid rhybuddiwch ef fel brawd.
16
Arglwydd y tangnefedd Ei Hun a roddo i chwi Ei dangnefedd bob amser ym mhob rhyw fodd. Yr Arglwydd a fo gyda chwi oll.
17
Y mae’r annerch yn fy llaw fy hun, Pawl. Dyma arwydd ym mhob llythyr; dyma fy ysgrifen:
18
Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fo gyda chwi oll.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
All chapters:
1
2
3