bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
2 Thessalonians 2
2 Thessalonians 2
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
1
Ac am ddyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist a’n cynnull ni ger Ei fron Ef, deisyfwn arnoch, frodyr,
2
na fyddo’n hawdd eich siglo o ran eich meddwl na’ch cythryblu na chan ysbryd na chan air na chan lythyr megis petai oddi wrthym ni, fod dydd yr Arglwydd wedi dyfod.
3
Na thwylled neb chwi mewn unrhyw fodd; oblegid oni ddêl yn gyntaf y gwrthgiliad a datguddio’r Dyn Anwir, mab y golledigaeth,
4
a wrthwyneba ac a ymddyrchaif yn erbyn beth bynnag a elwir yn dduw neu a addolir, ac eistedd ei hun yn nheml Dduw a chyhoeddi mai ef sydd Dduw —
5
oni chofiwch fy mod yn dywedyd hyn wrthych pan oeddwn eto gyda chwi?
6
Ac yn awr gwyddoch beth sydd yn ei atal, fel y datguddier ef yn ei amser priod.
7
Canys y mae dirgelwch anwiredd yn gweithio eisoes, eithr yn unig hyd nes y symudir o’r ffordd yr hwn sydd yn ei atal,
8
ac yna datguddir y Dyn Anwir a’r Arglwydd Iesu a’i dinistria ef ag anadl Ei enau ac a’i diddyma trwy ymddangos ohono yn Ei ddyfodiad.
9
A’i ddyfodiad sydd yn ôl gweithgarwch Satan gyda phob gallu ac arwyddion a rhyfeddodau gau
10
ynghyda phob rhyw dwyll anghyfiawnder i’r rhai a gyfrgollir am na dderbyniasant gariad at wirionedd i’w hachub.
11
Oherwydd hyn, Duw sy’n anfon atynt allu twyllodrus a bair iddynt gredu’r gau
12
fel y barner pawb na chredodd y gwirionedd ond ymhyfrydu mewn anghyfiawnder.
13
Ond diolch a ddylem ni yn wastadol i Dduw amdanoch chwi, frodyr annwyl gan yr Arglwydd, oherwydd i Dduw eich dewis chwi o’r dechreuad i iachawdwriaeth trwy sancteiddiad yr Ysbryd a ffydd yn y gwirionedd.
14
I hyn y’ch galwodd chwi trwy ein hefengyl ni i gaffael gogoniant ein Harglwydd Iesu Grist.
15
Gan hynny, frodyr, sefwch a glynwch wrth y traddodiadau a ddysgasoch gennym ni trwy air neu lythyr.
16
A’n Harglwydd Iesu Grist Ei Hun, a Duw ein Tad, yr Hwn a’n carodd ac a roddodd inni ddiddanwch bythol a gobaith da trwy Ei ras,
17
a ddiddano eich calonnau a’ch cadarnhau ym mhob gweithred a gair da.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3