bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
2 Timothy 1
2 Timothy 1
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 2 →
1
Pawl, Apostol Crist Iesu, trwy ewyllys Duw, yn ôl yr addewid o’r bywyd sydd yng Nghrist Iesu,
2
at Timotheus ei annwyl blentyn. Gras, trugaredd, a thangnefedd oddi wrth Dduw Dad a Christ Iesu ein Harglwydd.
3
Diolchaf i’m Duw a addolaf fel fy nhadau â chydwybod bur, wrth wneuthur coffa ohonot yn ddibaid yn fy ngweddïau nos a dydd,
4
gan hiraethu am dy weled, a chofio dy ddagrau, fel y’m llanwer â llawenydd,
5
gan alw i gof y ffydd ddiffuant sydd ynot ti, a drigodd yn gyntaf yn dy nain Lois ac yn dy fam Eunice, ac y mae yn ddiogel gennyf ei bod ynot tithau hefyd.
6
O achos hyn atgofiaf di i ailennyn dawn Duw y sydd ynot ti trwy arddodiad fy nwylo i,
7
canys ni roddes Duw inni ysbryd llwfr, eithr ysbryd nerth a chariad a phwyll.
8
Na foed arnat gywilydd, ynteu, o dystiolaeth yr Arglwydd, na chwaith ohonof innau ei garcharor, eithr cydoddef â mi gam-drin dros yr efengyl trwy allu Duw,
9
yr hwn a’n hachubodd ni, a’n galw â galwad santaidd, nid oherwydd ein gweithredoedd ni, eithr oherwydd ei briod fwriad a’i ras a roddwyd i ni yng Nghrist Iesu erioed,
10
ond a eglurhawyd yn awr trwy amlygiad ein Hiachawdwr Crist Iesu, a ddirymodd angau ac a ddug fywyd ac anllygredigaeth i’r golau trwy’r efengyl
11
y’m gosodwyd i yn bregethwr ac apostol ac athro iddi.
12
O achos hyn y dioddefaf hefyd y pethau hyn, ond nid oes arnaf gywilydd, canys mi a wn ym mhwy yr wyf wedi ymddiried, ac y mae yn ddiogel gennyf y medr ef warchod fy adnau hyd y dydd mawr.
13
Bydded gennyt batrwm y ddysgeidiaeth iach a glywaist gennyf i yn y ffydd a’r cariad sydd yng Nghrist Iesu.
14
Gwarchod yr adnau drud trwy’r Ysbryd Glân sy’n preswylio ynom.
15
Gwyddost gefnu o bawb o’r Asiaid arnaf; yn eu plith y mae Phygelos a Hermogenes.
16
Rhodded yr Arglwydd drugaredd i deulu Onesifforos, canys mynych y cododd ef fy nghalon, ac ni bu arno gywilydd o’m cadwyn.
17
Eithr pan oedd yn Rhufain chwiliodd amdanaf a’m cael.
18
Rhodded yr Arglwydd iddo yntau gaffael trugaredd oddi wrth yr Arglwydd yn y dydd mawr; a’r holl wasanaeth a wnaeth yn Effesus, gwyddost ti yn well na neb.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4