bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
2 Timothy 3
2 Timothy 3
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 4 →
1
Ystyria hyn, fod yn y dyddiau diwethaf amseroedd caled i ddyfod;
2
canys bydd dynion yn hunangar, ariangar, ymffrostgar, ffroenuchel, tafotrwg, anufudd i rieni, anniolchgar, annuwiol,
3
dideimlad, anghymodol, enllibus, dilywodraeth, annhirion, digariad at ddaioni,
4
bradwrus, byrbwyll, chwyddedig, yn caru pleser yn fwy na charu Duw;
5
a chanddynt ffurf duwioldeb eithr wedi gwadu ei grym hi.
6
Oddi wrth y rhain hefyd tro ymaith; o’u plith y mae’r sawl a ymlwybra i dai, a chael i’w gafael wrageddos dan faich o bechodau, a yrrir gan amryfal nwydau,
7
y sydd bob amser yn dysgu, heb fyth allu dyfod i ganfod y gwirionedd.
8
Megis y gwrthsafodd Jannes a Jambres Foesen, felly y gwrthsaif y rhain hefyd y gwirionedd, dynion cwbl ddirywiedig eu meddwl, ffuantus eu ffydd.
9
Ond nid ânt rhagddynt ymhellach, canys daw eu ffolineb yn amlwg i bawb fel y daeth ffolineb y rheini.
10
Eithr tydi, deliaist ar fy nysgeidiaeth, fy ymarweddiad, fy niben, fy ffydd, fy hiroddef, fy nghariad, fy ymgynnal,
11
fy erlidiau a’m dioddefiadau, y cwbl a ddigwyddodd i mi yn Antiochia, Iconion, a Lystra, yr holl erlidiau a ddioddefais, ac ohonynt oll fe’m gwaredodd yr Arglwydd.
12
A phawb a fynno fyw yn dduwiol yng Nghrist Iesu a erlidir.
13
Ond dynion maleisus a ffugwyr a â rhagddynt o ddrwg i waeth, gan dwyllo a chael eu twyllo.
14
Eithr tydi, aros yn y pethau a ddysgaist ac y cefaist sicrwydd ohonynt; a chofia gan bwy y dysgaist,
15
ac iti o’th febyd wybod yr Ysgrythur Lân a fedr dy wneuthur yn ddoeth i iachawdwriaeth trwy’r ffydd sydd yng Nghrist Iesu.
16
Y mae’r holl Ysgrythur yn ysbrydoledig ac yn fuddiol i addysgu, i argyhoeddi, i edfryd, i feithrin mewn cyfiawnder,
17
fel y byddo dyn Duw yn gymwys, wedi ei lwyr gymhwyso i bob gwaith da.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4