bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
2 Timothy 4
2 Timothy 4
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
1
Tynghedaf di y ngŵydd Duw a Christ Iesu, y sydd i farnu’r byw a’r meirw, ac yng ngoleuni ei amlygiad a’i deyrnas ef,
2
cyhoedda’r gair; dal ati, boed gyfleus neu anghyfleus; gwrthbrofa, cerydda, atolyga â’th holl amynedd a’th addysg.
3
Canys daw amser pan na oddefont y ddysgeidiaeth iach, eithr yn ôl eu mympwy eu hunain, pentyrrant iddynt eu hunain athrawon â’u clustiau’n merwino,
4
a throi rhag clywed y gwirionedd a gŵyro at chwedlau.
5
Eithr tydi, bydd wyliadwrus ym mhob dim; dioddef gam, gwna di waith efengylydd; cyflawna dy wasanaeth.
6
Amdanaf i, y mae fy mywyd bellach ar fin cael ei offrymu, ac amser fy ngollwng a nesaodd.
7
Ymdrechais ymdrech deg, gorffennais yr yrfa, cedwais y ffydd.
8
Bellach y mae ynghadw i mi goron cyfiawnder a rydd yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn, imi yn y dydd mawr, ac nid yn unig i mi eithr hefyd i bawb a roddes eu bryd ar ei amlygiad ef.
9
Gwna dy orau i ddyfod ataf yn fuan,
10
canys Demas a gefnodd arnaf a’i serch ar y byd presennol, a myned i Thesalonica, Cresces i Galatia, Titus i Ddalmatia;
11
Luc yn unig sydd gyda mi. Galw am Marc a dwg ef gyda thi, canys defnyddiol ydyw imi i wasanaeth.
12
Tychicos a anfonais i Effesus.
13
Y fantell a adewais yn Nhroas gyda Charpos, dwg gyda thi pan ddelych, a’m llyfrau, yn enwedig fy memrynau.
14
Alecsandros y gof pres a wnaeth ddrwg mawr i mi; fe dâl yr Arglwydd iddo yn ôl ei weithredoedd;
15
y dyn hwn gwylia dithau, canys dygn y gwrthsafodd ef ein geiriau ni.
16
Yn ystod fy mhrawf cyntaf ni ddaeth neb i’m pleidio, eithr cefnodd pawb arnaf; na chyfrifer hynny i’w herbyn.
17
Ond yr Arglwydd a safodd yn fy ymyl, ac a roddes imi’r nerth, fel trwof i y llwyr gyhoeddid yr efengyl ac y clywai’r holl genhedloedd hi. Do, fe’m gwaredwyd o safn y llew.
18
Fe’m gweryd yr Arglwydd o bob drygwaith a’m hachub i’w deyrnas nefol. Iddo ef y byddo’r gogoniant yn oes oesoedd, Amen.
19
Cyfarch Prisca ac Acwila a theulu Onesifforos.
20
Arhosodd Erastos yng Nghorinth; Troffimos a adewais ym Miletos yn glaf.
21
Gwna dy orau i ddyfod cyn y gaeaf. Fe’th gyfarch Eubowlos, Pwdes, Linos, Clawdia, a’r brodyr oll.
22
Yr Arglwydd a fyddo gyda’th ysbryd. Gras fyddo gyda chwi.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
All chapters:
1
2
3
4