bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
James 2
James 2
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 3 →
1
Fy mrodyr, na foed gennych gyda derbyn wyneb eich ffydd yn ein Harglwydd Iesu Grist, Arglwydd y gogoniant.
2
Canys o daw i’ch cynulliad ŵr â modrwy aur, mewn dillad gwychion, a dyfod hefyd ŵr tlawd mewn gwisgoedd budron,
3
ac edrych ohonoch ar y gŵr â’r dillad gwychion, a dywedyd: “Eistedd di yma yn dda dy le,” ac wrth y tlawd ddywedyd: “Saf dithau yna, neu, eistedd is law fy stôl droed i,”
4
oni wnewch ynoch eich hunain ragor rhwng y naill â’r llall, ac oni byddwch farnwyr yn ôl drwg ddadleuon?
5
Gwrandewch, fy mrodyr annwyl, oni ddewisodd Duw dlodion y byd yn gyfoethogion mewn ffydd, ac yn etifeddion y deyrnas a addawodd ef i’r rhai a’i caro?
6
Eithr chwithau, dibrisio’r tlawd a wnaethoch. Onid y cyfoethogion sydd yn gormesu arnoch a’ch llusgo i’r brawdleoedd eu hunain?
7
Onid hwy sydd yn cablu’r enw gwiw a alwyd arnoch?
8
Yn wir, os cyflawni’r gyfraith frenhinol yr ydych, yn ôl yr ysgrythur: Câr dy gymydog fel ti dy hun, da y gwnewch.
9
Eithr os derbyn wyneb yr ydych, pechod a wnewch, ac fe’ch condemnir gan y gyfraith fel troseddwyr.
10
Canys pwy bynnag a gadwo’r gyfraith i gyd, a thramgwyddo mewn un peth, euog fydd o’r cwbl.
11
Canys y neb a ddywedodd, Na odineba, hefyd a ddywedodd, Na ladd. Ac oni odinebi, eithr lladd ohonot, ti fyddi droseddwr cyfraith.
12
Felly lleferwch, ac felly gweithredwch, megis rhai ar gaffael eu barnu wrth gyfraith rhyddid.
13
Canys barn ddidrugaredd fydd i’r sawl na wnaeth drugaredd. Trech trugaredd na barn.
14
Pa les, fy mrodyr, ddywedyd o neb fod ganddo ffydd, ac yntau heb weithredoedd? A ddichon ei ffydd ei achub ef?
15
O bydd brawd neu chwaer yn brin o ddillad, a bod eisieu ganddynt ymborth beunyddiol,
16
a dywedyd o un ohonoch wrthynt, “Ewch mewn heddwch, ymdwymnwch ac ymddigonwch,” eithr heb roddi iddynt reidiau’r corff, pa les hynny?
17
Felly hefyd, ffydd, oni bo ganddi weithredoedd, marw ydyw ynddi ei hun.
18
Eithr dywed rhywun: “Ffydd sydd i ti, a gweithredoedd i minnau.” Dangos i mi dy ffydd di heb dy weithredoedd, a minnau, dangosaf iti fy ffydd o’m gweithredoedd.
19
Credu yr wyt ti mai un yw Duw? Gwych y gwnei: y mae’r cythreuliaid hefyd yn credu — ac yn arswydo.
20
Eithr a fynni wybod, ti ddyn gwagsaw, mai diffrwyth yw ffydd heb weithredoedd?
21
Abraham ein tad ni, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd ef, wrth offrymu Isaac ei fab ar yr allor?
22
Gweli gyd-weithio o ffydd â’i weithredoedd ef, a thrwy weithredoedd ddarfod perffeithio ei ffydd,
23
a chyflawnwyd yr ysgrythur a ddywed: A chredodd Abraham i Dduw, ac fe’i cyfrifwyd iddo’n gyfiawnder, a chyfaill Duw y galwyd ef.
24
Gwelwch mai o weithredoedd y cyfiawnheir dyn, ac nid o ffydd yn unig.
25
Ac yn yr un ffunud, Rahab y butain hithau, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd hi, wrth dderbyn ohoni’r cenhadau a thrwy ffordd arall eu gollwng ymaith?
26
Canys megis am y corff heb ysbryd, mai marw yw, felly hefyd ffydd heb weithredoedd, marw yw.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5