bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
James 4
James 4
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 5 →
1
O ba le y mae rhyfeloeodd, ac o ba le y mae ymladdau yn eich plith? onid o hyn, o’ch blysiau sydd yn rhyfela yn eich aelodau?
2
Chwenychu yr ydych, ac nid oes gennych ddim; lladd ac eiddigeddu yr ydych, ac ni ellwch gyrraedd; ymladd a rhyfela yr ydych; nid oes gennych ddim am nad ydych yn ceisio;
3
yr ydych yn gofyn, ond ni dderbyniwch, am mai ar gam y gofynnwch, fel y treulioch ar eich blysiau.
4
Chwi odinebusion, oni wyddoch fod cyfeillach y byd yn elyniaeth tuag at Dduw? Pwy bynnag gan hynny a fynno fod yn gyfaill i’r byd, y mae yn ei osod ei hun yn, elyn i Dduw.
5
Ai tybio ynteu yr ydych mai yn ofer y dywed yr ysgrythur: “hyd at eiddigedd yr hiraetha ef am yr ysbryd y parodd ei gartrefu ynom”?
6
Eithr rhoddi gras mwyfwy y mae. Am hynny y dywed: Saif Duw yn erbyn y beilchion, ond i’r gostyngedig y mae’n rhoddi gras.
7
Am hynny ymddarostyngwch i Dduw; sefwch yn erbyn diafol, a ffy yntau rhagoch.
8
Neshewch at Dduw, a nesha yntau atoch chwithau. Glanhewch eich dwylo, bechaduriaid, a phurwch eich calonnau, chwi â’r meddwl deublyg.
9
Ymdrallodwch a galerwch ac wylwch: troer eich chwerthin yn alar, a’ch llawenydd yn bendristwch.
10
Ymddarostyngwch gerbron yr Arglwydd, ac yntau a’ch dyrchaif chwithau.
11
Na ddywedwch yn ddrwg am eich gilydd, frodyr; y neb a ddywedo’n ddrwg am frawd, neu a farno’i frawd, dywedyd yn ddrwg y ddeddf a ferni, nid wyt ti wneuthurwr y ddeddf, eithr barnwr.
12
Un sydd ddeddfwr a barnwr, yr hwn a ddichon waredu a dinistrio; a thithau, pwy wyt ti i farnu dy gymydog?
13
Dowch, ynteu, chwi sy’n dywedyd “Heddyw neu yfory, fe awn i’r ddinas a’r ddinas, a bwrw blwyddyn yno a marchnata ac elwa”,
14
a chwithau heb wybod pa beth a fydd eich einioes yfory; canys tarth ydych, dros ychydig yn ymddangos ac yna yn diflannu;
15
yn lle dywedyd ohonoch “Os myn yr Arglwydd, byw fyddwn a gwnawn hyn neu hynny”.
16
Eithr yn awr, dyma chwithau yn ymffrostio yn eich rhodres; pob cyfryw ymffrost, drwg ydyw.
17
Am hynny, y neb wypo wneuthur da ac nas gwnêl, pechod yw iddo.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5