bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
James 5
James 5
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
1
Dowch, ynteu, chwi gyfoethogion, wylwch, gan udo oblegid eich trallodau, sydd ar eich gwarthaf.
2
Eich cyfoeth, pydru a wnaeth, a’ch gwisgoedd sydd wedi eu hysu gan bryfed;
3
rhydodd eich aur a’ch arian, a bydd eu rhwd hwynt yn dystiolaeth yn eich erbyn chwi, a bwyty eich cnawd megis tân. Casglu trysor a wnaethoch yn y dyddiau diweddaf.
4
Wele, y mae cyflog y gweithwyr a fedodd eich meysydd, ac a ataliwyd gennych chwithau, yn llefain, a daeth bloeddiau’r fedel i mewn i glustiau Arglwydd y lluoedd.
5
Ymloddesta ar y ddaear a wnaethoch, ac ymdrythyllu, a meithrin eich calonnau yn nydd lladd.
6
Condemniasoch, lladdasoch y cyfiawn. Oni saif ef yn eich erbyn?
7
Byddwch hir-ymarhöus ynteu, frodyr, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Wele, disgwyl y mae’r llafurwr am werthfawr ffrwyth y ddaear, gan hir-ymaros amdano, hyd oni chaffo’r glaw cynnar a’r diweddar.
8
Byddwch chwithau hefyd hir-ymarhöus; cadarnhewch eich calonnau, canys agoshaodd dyfodiad yr Arglwydd.
9
Na thuchenwch, frodyr, yn erbyn eich gilydd, fel na’ch barner; wele, y mae’r barnwr yn sefyll wrth y drws.
10
Fel patrwm, frodyr, o oddef adfyd ac o hir-ymaros, cymerwch y proffwydi a lefarodd yn enw’r Arglwydd.
11
Wele, dedwydd y cyfrifwn y rhai fu dda eu hamynedd; clywsoch am amynedd Job, a gwelsoch y diwedd a barodd yr Arglwydd, canys aml ei dosturi yw’r Arglwydd a thrugarog.
12
Ond o flaen pob peth, fy mrodyr, na thyngwch lw, na myn y nef, na myn y ddaear, nac un llw arall: ond bydded “ie” eich “ie” chwi, a “nage” eich “nage”, rhag syrthio ohonoch tan farn.
13
A oes neb yn eich plith yn dwyn adfyd? Gweddïed. A oes neb yn galonnog? caned fawl.
14
A oes neb yn eich mysg mewn gwendid? Galwed ato henuriaid yr eglwys, a gweddïent hwythau uwch ei ben, gan ei eneinio ag olew yn enw’r Arglwydd.
15
Ac fe iachâ gweddi eu ffydd hwynt y claf, a chyfyd yr Arglwydd ef: ac o bydd wedi pechu, maddeuir iddo.
16
Cyffeswch gan hynny eich pechodau i’ch gilydd, a gweddïwch y naill dros y llall, fel y’ch iachäer. Llawer, o’i ddodi ar waith, a ddichon deisyfiad y cyfiawn.
17
Dyn oedd Elïas o’r un sut a ninnau, ac mewn gweddi gweddïodd na byddai glaw, a glaw ni bu ar y ddaear dair blynedd a chwe mis.
18
A thrachefn gweddïodd, a rhoddes y nef law, a pharodd y ddaear darddu o’i ffrwyth.
19
Fy mrodyr, o chyfeiliorna neb ohonoch oddi wrth y gwirionedd, a throi a rywun ef yn ei ôl,
20
gwbyddwch y bydd i’r neb a droes bechadur o gyfeiliorni ei ffordd, gadw ei enaid ef rhag marwolaeth, a chuddio lliaws o bechodau.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
All chapters:
1
2
3
4
5