bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Titus 1
Titus 1
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 2 →
1
Pawl, gwas Duw ac Apostol Iesu Grist yn ôl ffydd pobl ddewisol Duw, a chanfyddiad y gwirionedd sy’n ôl duwioldeb,
2
ar bwys gobaith bywyd tragwyddol a addawodd y digelwyddog Dduw cyn yr oesoedd
3
(do, mewn iawn bryd fe hysbysodd ei air trwy bregethu, a hyn a ymddiriedwyd i mi yn ôl gosodiad Duw ein Hiachawdwr),
4
at Titus, ei ddilys blentyn yn y ffydd sydd gennym yn gyffredin. Gras a thangnefedd oddi wrth Dduw Dad a Christ Iesu ein Hiachawdwr.
5
Mi a’th adewais yng Nghreta i gwplàu ohonot y gweddill o’r trefniadau a sefydlu henuriaid ym mhob dinas fel yr erchais iti,
6
od oes neb yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, a chanddo blant yn credu, nas cyhuddir o fod yn afradlon nac yn anhydrin.
7
Canys fe ddylai arolygwr fod yn ddiargyhoedd fel goruchwyliwr i Dduw, nid yn gyndyn, nid yn nwydwyllt, nid yn feddwyn, nid yn ymladdgar, nid yn fudrelwr.
8
Eithr â’i dŷ yn agored, yn gyfaill daioni, yn synhwyrol, yn gyfiawn, yn santaidd, a chanddo hunanlywodraeth,
9
yn dal yn dynn wrth y gair ffyddlon sydd yn ôl yr addysg, fel y gallo hefyd gynghori yn y ddysgeidiaeth iach, a gwrthbrofi’r rhai sy’n gwrthddywedyd.
10
Canys y mae llawer yn anhydrin, yn twyllo meddyliau â’u gwag resymau, yn enwedig plaid yr enwaediad;
11
rhaid rhoi taw ar y rhain; dymchwelant deuluoedd cyfain trwy ddysgu’r hyn na ddylid, er mwyn budrelw.
12
Fe ddywed rhyw broffwyd ohonynt hwy eu hunain, “Celwyddwyr yw’r Cretiaid erioed, anfad anghenfilod, boliau gorddïog.”
13
Y mae’r dystiolaeth hon yn wir. O achos hyn argyhoedda hwy yn llym, fel y byddont iach yn y ffydd,
14
heb ymroddi i chwedlau Iddewaidd a gorchmynion dynion a gefna ar y gwirionedd.
15
Pur yw popeth i’r rhai pur, ond i’r rhai difwynedig a’r di-ffydd nid oes dim yn bur, eithr difwynwyd eu meddwl a’u cydwybod.
16
Proffesant adnabod Duw, eithr mewn gweithredoedd fe’i gwadant. Ffiaidd ac anufudd ydynt, a diwerth at unrhyw waith da.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3