bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Titus 3
Titus 3
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
1
Atgofia hwy i ymostwng i’r llywodraethwyr a’r awdurdodau, i fod yn ufudd, yn barod i unrhyw waith da,
2
heb ddifenwi neb, yn ddi-gynnen, yn deg, gan ddangos pob tiriondeb tuag at ddynion oll.
3
Canys yr oeddem ninnau gynt yn ddiddeall, yn anufudd, ar gyfeiliorn, yn gaeth i amrywiol nwydau a phleserau, yn treulio ein bywyd mewn malais a chenfigen, yn atgas, yn casáu ein gilydd.
4
Eithr pan dorrodd dydd hynawsedd a charedigrwydd Duw ein Hiachawdwr,
5
nid am weithredoedd cyfiawn a wnaethom ni, ond yn ôl ei drugaredd ef, fe’n hachubodd trwy olchiad yr adenedigaeth ac adnewyddiad yr Ysbryd Glân,
6
a dywalltodd ef arnom ni yn helaeth trwy Iesu Grist ein Hiachawdwr,
7
fel, wedi ein cyfiawnhau trwy ei ras ef, y delem mewn gobaith yn etifeddion bywyd tragwyddol.
8
Gwir yw y gair, ac ar y gwirioneddau hyn yr wyf am iti roddi pwys, fel y gofalo’r rhai a gredodd yn Nuw flaenori mewn gweithredoedd da. Y pethau hyn sydd dda a buddiol i ddynion.
9
Eithr ffôl ddyfaliadau, ac achau a chynnen ac ymrysonau ynglŷn â’r gyfraith, gochel, canys di-fudd ac ofer ydynt.
10
Y dyn croes, ar ôl iti ei rybuddio unwaith a thrachefn, gochel,
11
gan wybod fod y cyfryw un yn ŵyrgam, yn pechu ac yn ei gondemnio ei hun.
12
Pan ddanfonwyf Artemos neu Dychicos atat, gwna dy orau i ddyfod ataf i Nicopolis, canys y mae yn fy mryd fwrw’r gaeaf yno.
13
Hebrwng i’w taith yn galonnog Senas y cyfreithiwr ac Apolos, fel na bo eisiau dim arnynt.
14
A dysged ein pobl ni hefyd flaenori mewn galwedigaethau anrhydeddus ar gyfer y gofynion angenrheidiol, fel na byddont yn ddiffrwyth.
15
Fe’th gyfarch fy nghymdeithion oll. Cyfarch ein caredigion yn y ffydd. Gras fyddo gyda chwi oll.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
All chapters:
1
2
3