bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Titus 2
Titus 2
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
1
Eithr llefara di yr hyn sydd yn gweddu i ddysgeidiaeth iach:
2
i’r hynafgwyr fod yn sobr, yn urddasol, yn bwyllog, yn iach yn eu ffydd, eu cariad, a’u hymgynnal.
3
Rhaid i’r hynafwragedd yr un modd fod yn barchedig eu hymarweddiad, nid yn enllibus, nid chwaith yn gaeth i flys gwin, yn ddyrchafol eu haddysgiadau,
4
fel y disgyblont y gwragedd ieuainc i garu eu gwŷr a’u plant,
5
i fod yn synhwyrol, yn bur, yn deuluaidd, yn dda, yn ymostwng i’w gwŷr priod, fel na chabler gair Duw.
6
Yr un modd annog y gwŷr ieuainc i fod yn bwyllog.
7
Ym mhob peth dangos dy hun yn batrwm mewn gweithredoedd da, yn ddilwgr dy ddysgeidiaeth, yn urddasol,
8
a’th neges yn iach ac uwchlaw beirniadaeth, fel y cywilyddier y gwrthwynebydd ac na byddo ganddo ddim bychanus i’w ddywedyd amdanom.
9
Y gweision hefyd ymostyngent i’w meistriaid, i ryngu bodd ym mhopeth iddynt,
10
heb eu hateb yn ôl na chwiwladrata, eithr o ewyllys da yn eu profi eu hunain yn gwbl ffyddlon, fel yr addurnont ym mhopeth ddysgeidiaeth Duw ein Hiachawdwr.
11
Canys torrodd gwawr gras achubol Duw ar ddynion oll,
12
gan ein cyfarwyddo, fel, trwy ymwadu ag annuwiaeth a nwydau bydol, y byddom fyw yn syber, yn gyfiawn ac yn dduwiol yn y byd presennol,
13
gan ddisgwyl am y gobaith gwynfydedig ac ymddangosiad y Duw mawr a’n Hiachawdwr Crist Iesu,
14
yr hwn a’i rhoddes ei hun drosom i’n rhyddhau ni o bob anghyfraith, a’n puro iddo’i hun yn bobl briod, eiddgar i weithredoedd da.
15
Y pethau hyn llefara; annog hefyd ac argyhoedda â phob awdurdod; na chaffed neb dy ddiystyru.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3