bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Amos 2
Amos 2
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 3 →
1
[1] Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae Moab wedi pechu dro ar ôl tro, felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw. Maen nhw wedi cymryd esgyrn brenin Edom a'u llosgi nhw'n galch.
2
Felly bydda i'n anfon tân i losgi Moab, a dinistrio caerau amddiffynnol Cerioth. Bydd pobl Moab yn marw yn sŵn y brwydro, yng nghanol y bloeddio a sŵn y corn hwrdd yn seinio.
3
Bydda i'n cael gwared â'i brenin hi ac yn lladd ei holl swyddogion gydag e.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
4
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae Jwda wedi pechu dro ar ôl tro, felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw. Maen nhw wedi troi eu cefnau ar gyfraith yr ARGLWYDD, a heb gadw ei orchmynion e. Maen nhw'n cael eu harwain ar gyfeiliorn gan y duwiau ffals oedd eu hynafiaid yn eu dilyn.
5
Felly bydda i'n anfon tân i losgi Jwda, a dinistrio caerau amddiffynnol Jerwsalem.”
6
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae Israel wedi pechu dro ar ôl tro, felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw. Maen nhw'n gwerthu'r dieuog am arian, a'r rhai mewn dyled am bâr o sandalau! —
7
sathru'r tlawd fel baw ar lawr, a gwthio'r gwan o'r ffordd! Ac mae dyn a'i dad yn cael rhyw gyda'r un gaethferch, ac yn amharchu fy enw glân i wrth wneud y fath beth.
8
Maen nhw'n gorwedd wrth ymyl yr allorau ar ddillad sydd wedi eu cadw'n warant am ddyled. Maen nhw'n yfed gwin yn nheml Duw — gwin wedi ei brynu gyda'r dirwyon roeson nhw i bobl!
9
Ac eto, fi wnaeth ddinistrio'r Amoriaid o flaen eich hynafiaid chi! — yr Amoriaid oedd yn dal fel cedrwydd ac yn gryf fel coed derw. Ond dyma fi'n eu torri nhw i lawr yn llwyr, o'u brigau uchaf i'w gwreiddiau!
10
Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft a'ch arwain chi drwy'r anialwch am bedwar deg o flynyddoedd, ac yna rhoi tir yr Amoriaid i chi!
11
Dewisais rai o'ch plant i fod yn broffwydi a rhai o'ch bechgyn ifanc i fod yn Nasareaid. Onid dyna ydy'r gwir, bobl Israel?” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
12
“Ond bellach, dych chi'n gwneud i'r Nasareaid yfed gwin, ac yn dweud wrth y proffwydi am gau eu cegau!
13
Felly gwyliwch chi! Bydda i'n eich dal chi'n ôl, fel trol sydd ond yn gallu symud yn araf bach am fod llwyth trwm o ŷd arni.
14
Bydd y cyflymaf ohonoch chi yn methu dianc, a'r cryfaf yn teimlo'n hollol wan. Bydd y milwr yn methu amddiffyn ei hun,
15
a'r bwasaethwr yn methu dal ei dir. Bydd y rhedwr cyflyma'n methu dianc, a'r un sydd ar gefn ceffyl yn methu achub ei fywyd.
16
Bydd y milwyr mwyaf dewr yn gollwng eu harfau ac yn rhedeg i ffwrdd yn noeth ar y diwrnod hwnnw.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9