bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Amos 5
Amos 5
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 6 →
1
Gwrandwch arna i'n galaru! Dw i'n canu cân angladdol er cof amdanat ti, wlad Israel:
2
“Mae Israel fel merch ifanc wedi ei tharo i lawr, mae hi'n gorwedd ar bridd ei gwlad a does neb i'w chodi ar ei thraed.”
3
Achos dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud am wlad Israel: “Dim ond cant fydd ar ôl yn y dre anfonodd fil allan i'r fyddin, a dim ond deg fydd ar ôl yn y dre anfonodd gant i'r fyddin.”
4
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthot ti, wlad Israel: “Tro yn ôl ata i, a chei fyw!
5
Paid troi i gyfeiriad y cysegr yn Bethel, mynd i ymweld â chysegr Gilgal na chroesi'r ffin a mynd i lawr i Beersheba. Bydd pobl Gilgal yn cael eu caethgludo, a fydd Bethel ddim mwy na rhith!”
6
Tro yn ôl at yr ARGLWYDD, a chei fyw! Os na wnei di bydd e'n rhuthro drwy wlad Joseff fel tân ac yn llosgi Bethel yn ulw; a fydd neb yn gallu diffodd y tân.
7
Druan ohonoch chi, sy'n troi cyfiawnder yn beth chwerw, ac yn gwrthod gwneud beth sy'n iawn yn y tir!
8
Duw ydy'r un wnaeth y sêr — Pleiades ac Orïon. Fe sy'n troi'r tywyllwch yn fore, ac yn troi'r dydd yn nos dywyll. Mae e'n cymryd dŵr o'r môr ac yn ei arllwys yn gawodydd ar y tir —yr ARGLWYDD ydy ei enw e!
9
Mae'n bwrw dinistr ar y mannau mwyaf diogel, nes bod caerau amddiffynnol yn troi'n adfeilion!
10
Dych chi'n casáu'r un sy'n herio anghyfiawnder yn y llys; ac yn ffieiddio unrhyw un sy'n dweud y gwir.
11
Felly, am i chi drethu pobl dlawd yn drwm a dwyn yr ŷd oddi arnyn nhw: Er eich bod chi wedi adeiladu'ch tai crand o gerrig nadd, gewch chi ddim byw ynddyn nhw. Er eich bod chi wedi plannu gwinllannoedd hyfryd, gewch chi byth yfed y gwin ohonyn nhw.
12
Dych chi wedi troseddu yn fy erbyn i mor aml, ac wedi pechu'n ddiddiwedd drwy gam-drin pobl onest, a derbyn breib i wrthod cyfiawnder i bobl dlawd pan maen nhw yn y llys!
13
Byddai unrhyw un call yn cadw'n dawel, achos mae'n amser drwg.
14
Ewch ati i wneud da eto yn lle gwneud drwg, a chewch fyw! Wedyn bydd yr ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, gyda chi go iawn (fel dych chi'n meddwl ei fod e nawr!)
15
Casewch ddrwg a charu'r da, a gwneud yn siŵr fod tegwch yn y llysoedd. Wedyn, falle y bydd yr ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, yn garedig at y llond dwrn o bobl sydd ar ôl yng ngwlad Joseff.
16
Ond o achos yr holl bethau drwg dych chi'n eu gwneud, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud — fy Meistr i, y Duw holl-bwerus: “Bydd wylo uchel ym mhob sgwâr, a sŵn pobl yn gweiddi ar bob stryd ‘O, na! na!’ Bydd y rhai tlawd sy'n gweithio ar y tir yn cael eu galw i alaru, a bydd y galarwyr proffesiynol yno yn nadu'n uchel.
17
Bydd pobl yn wylo'n uchel, hyd yn oed yn y gwinllannoedd, achos dw i'n dod i'ch cosbi chi.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
18
Druan ohonoch chi! Chi sy'n edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn dod! Sut allwch chi edrych ymlaen at y diwrnod hwnnw? Diwrnod tywyll fydd e, heb ddim golau o gwbl!
19
Bydd fel petai rhywun yn dianc oddi wrth lew ac yn sydyn mae arth yn dod i'w gyfarfod. Mae'n llwyddo i gyrraedd y tŷ'n ddiogel, ond yna'n pwyso yn erbyn y wal ac yn cael ei frathu gan neidr!
20
Felly bydd hi ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn dod — diwrnod tywyll fydd e, dim un golau! Ie, tywyllwch dudew heb lygedyn o olau!
21
“Dw i'n casáu eich gwyliau crefyddol chi, ac yn eu diystyru nhw. Dydy'ch addoliad chi'n rhoi dim pleser i mi.
22
Er i chi ddod i gyflwyno aberthau i'w llosgi i mi, ac offrymau bwyd, wna i ddim eu derbyn nhw. Gallwch ddod ac offrymu eich anifeiliaid gorau i mi, ond fydda i'n cymryd dim sylw o gwbl!
23
Plîs stopiwch ddod yma i forio canu eich emynau, does gen i ddim eisiau clywed sŵn eich offerynnau cerdd chi.
24
Beth dw i eisiau ydy gweld cyfiawnder fel dŵr yn gorlifo, a thegwch fel ffrwd gref sydd byth yn sychu.
25
“Wnaethoch chi gyflwyno aberthau ac offrymau i mi yn ystod y pedwar deg mlynedd yn yr anialwch, bobl Israel?
26
“A nawr mae'n well gynnoch chi gario eich ‛brenin‛ Saccwth, a'ch delw o Caiwan — sef duwiau'r sêr dych chi wedi eu llunio i chi'ch hunain!
27
Felly, bydda i'n eich gyrru chi'n gaethion i wlad sydd tu draw i Damascus.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn, sef yr un sy'n cael ei alw y Duw holl-bwerus.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9