bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Amos 3
Amos 3
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 4 →
1
Bobl Israel, gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD yn eich erbyn chi. Chi, y bobl ddois i â nhw allan o wlad yr Aifft.
2
“O blith holl bobloedd y ddaear, chi ydy'r rhai wnes i ddewis — a dyna pam mae'n rhaid i mi eich galw chi i gyfrif am yr holl ddrwg dych chi wedi ei wneud.”
3
Ydy dau berson yn gallu teithio gyda'i gilydd heb fod wedi trefnu i gyfarfod?
4
Ydy llew yn rhuo yn y goedwig pan does ganddo ddim ysglyfaeth? Ydy llew ifanc yn grwnian yn fodlon yn ei ffau oni bai ei fod wedi dal rhywbeth?
5
Ydy aderyn yn cael ei ddal mewn rhwyd os nad oes abwyd yn y trap? Ydy trap ar lawr yn cau yn sydyn heb fod rhywbeth wedi ei ddal ynddo?
6
Ydy pobl ddim yn dychryn yn y dre wrth glywed y corn hwrdd yn seinio fod ymosodiad? Ydy dinistr yn gallu dod ar ddinas heb i'r ARGLWYDD adael i'r peth ddigwydd?
7
Dydy fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn gwneud dim byd heb ddangos ei gynllun i'w weision y proffwydi.
8
Pan mae'r llew yn rhuo, pwy sydd ddim yn ofni? Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, wedi siarad, felly pwy sy'n mynd i wrthod proffwydo?
9
Cyhoedda hyn i'r rhai sy'n byw yn y plastai yn Ashdod ac yn y plastai yng ngwlad yr Aifft! Dywed: “Dewch at eich gilydd i ben bryniau Samaria i weld yr anhrefn llwyr sydd yn y ddinas, a'r gormes sy'n digwydd yno.
10
Allan nhw ddim gwneud beth sy'n iawn!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Yn eu plastai maen nhw'n storio trysorau sydd wedi eu dwyn trwy drais.”
11
Felly dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “Bydd gelyn yn amgylchynu'r wlad! Bydd yn rhwygo popeth oddi arni ac yn ei gadael yn noeth. Bydd ei chaerau amddiffynnol yn cael eu hysbeilio'n llwyr!”
12
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Fel bugail yn ‛achub‛ unrhyw beth o safn y llew — dwy goes, neu ddarn o'r glust — dyna'r math o ‛achub‛ fydd ar bobl Israel sy'n byw yn Samaria. Dim ond coes y gwely neu gornel y fatras fydd ar ôl!
13
Gwranda ar hyn, a rhybuddia bobl Jacob” —fy Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn, y Duw holl-bwerus—
14
“Pan fydda i'n cosbi Israel am wrthryfela, bydda i'n dinistrio'r allor sydd yn Bethel. Bydd y cyrn ar gorneli'r allor yn cael eu torri ac yn disgyn ar lawr.
15
Bydda i'n dymchwel eu tai, a'u tai haf nhw hefyd. Bydd y tai oedd wedi eu haddurno ag ifori yn adfeilion. Bydd y plastai yn cael eu chwalu'n llwyr!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9