bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Jonah 2
Jonah 2
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 3 →
1
Dyma Jona yn gweddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw o fol y pysgodyn.
2
Roeddwn i mewn trafferthion, a dyma fi'n galw ar yr ARGLWYDD, a dyma fe'n fy ateb i. Dyma fi'n gweiddi am dy help di, o ganol byd y meirw, a dyma ti'n gwrando arna i!
3
Teflaist fi i'r dyfnder; i waelod y môr. Roedd y cerrynt o'm cwmpas, a'r tonnau mawr yn torri uwch fy mhen.
4
Ro'n i'n meddwl fy mod i wedi cael fy ysgubo i ffwrdd gen ti am byth, ac y byddwn i byth yn cael gweld dy deml sanctaidd di eto!
5
Roeddwn i bron boddi — roedd y môr dwfn o'm cwmpas, a gwymon wedi lapio am fy mhen.
6
Roeddwn i wedi suddo at waelod isa'r mynyddoedd. Roedd giatiau Byd y Meirw wedi cloi tu ôl i mi am byth. Ond dyma ti, ARGLWYDD Dduw, yn fy achub i o'r Pwll dwfn.
7
Pan oedd fy mywyd yn llithro i ffwrdd, dyma fi'n galw arnat ti, ARGLWYDD; a dyma ti'n gwrando ar fy ngweddi o dy deml sanctaidd.
8
Mae'r rhai sy'n addoli eilunod diwerth yn troi cefn ar dy drugaredd di.
9
Ond dw i'n mynd i offrymu aberth i ti, a chanu mawl i ti'n gyhoeddus. Bydda i'n gwneud beth dw i wedi ei addo! Yr ARGLWYDD ydy'r un sy'n achub!
10
Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth y pysgodyn am chwydu Jona ar dir sych.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4