bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Jonah 4
Jonah 4
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
1
Doedd Jona ddim yn hapus. Roedd e wedi gwylltio'n lân.
2
Dyma fe'n gweddïo: O ARGLWYDD, plîs na! Ro'n i'n gwybod mai dyma fyddai'n digwydd! Dyna feddyliais i pan oeddwn i adre yn fy ngwlad fy hun, a dyna pam wnes i geisio dianc i Tarshish! Ti'n Dduw mor garedig a thrugarog, mor amyneddgar ac anhygoel o hael, a ddim yn hoffi cosbi!
3
Lladd fi! Mae'n well gen i farw na byw i weld hyn!
4
Dyma'r ARGLWYDD yn gofyn iddo, “Ydy'n iawn i ti wylltio fel yma?”
5
Dyma Jona'n mynd allan o'r ddinas i gyfeiriad y dwyrain, ac eistedd i lawr. Gwnaeth loches iddo'i hun, ac eistedd yn ei gysgod, yn disgwyl i weld beth fyddai'n digwydd i Ninefe.
6
A dyma'r ARGLWYDD Dduw yn gwneud i blanhigyn bach dyfu uwch ben Jona. Roedd i gysgodi drosto, i'w gadw rhag bod yn rhy anghyfforddus. Roedd Jona wrth ei fodd gyda'r planhigyn.
7
Ond yn gynnar iawn y bore wedyn dyma Duw yn anfon pryfyn i ymosod ar y planhigyn, a dyma fe'n gwywo.
8
Yna yn ystod y dydd dyma Duw yn anfon gwynt poeth o'r dwyrain. Roedd yr haul mor danbaid nes bod Jona bron llewygu. Roedd e eisiau marw, a dyma fe'n gweiddi, “Byddai'n well gen i farw na byw!”
9
Ond dyma'r ARGLWYDD yn gofyn iddo, “Ydy'n iawn i ti fod wedi gwylltio fel yma o achos planhigyn bach?” Ac meddai Jona, “Ydy, mae yn iawn. Dw i yn wyllt!”
10
A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho: “Ti wedi cynhyrfu am blanhigyn bach wnest ti ddim gofalu amdano na gwneud iddo dyfu. Roedd e wedi tyfu dros nos a gwywo'r diwrnod wedyn!
11
Ydy hi ddim yn iawn i mi fod â chonsýrn am y ddinas fawr yma, Ninefe? Mae yna dros gant dau ddeg o filoedd o bobl ddiniwed yn byw ynddi — a lot fawr o anifeiliaid hefyd!”
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
All chapters:
1
2
3
4