bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Jonah 3
Jonah 3
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 4 →
1
Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Jona unwaith eto.
2
“Dos i ddinas fawr Ninefe ar unwaith! Dw i eisiau i ti gyhoeddi'r neges dw i'n ei rhoi i ti.”
3
Y tro yma dyma Jona'n gwneud hynny, fel roedd yr ARGLWYDD eisiau, a mynd yn syth i Ninefe. (Roedd Ninefe yn ddinas anferth. Roedd hi'n cymryd tri diwrnod i gerdded trwyddi!)
4
Ar ôl cerdded trwyddi am ddiwrnod, dyma Jona'n cyhoeddi, “Mewn pedwar deg diwrnod bydd dinas Ninefe yn cael ei dinistrio!”
5
Dyma bobl Ninefe yn credu neges Duw. A dyma nhw'n galw ar bawb i ymprydio (sef peidio bwyta) ac i wisgo sachliain — y bobl gyfoethog a'r tlawd.
6
Pan glywodd brenin Ninefe am y peth, dyma fe hyd yn oed yn codi o'i orsedd, tynnu ei wisg frenhinol i ffwrdd, rhoi sachliain amdano, ac eistedd mewn lludw.
7
[7-8] Wedyn dyma fe'n gwneud datganiad cyhoeddus: “Dyma mae'r brenin a'i swyddogion yn ei orchymyn: Does neb o bobl Ninefe i fwyta nac yfed (na'r anifeiliaid chwaith — gwartheg na defaid.) Rhaid i bawb wisgo sachliain. A dylid hyd yn oed rhoi sachliain ar yr anifeiliaid. Mae pawb i weddïo'n daer ar Dduw, a stopio gwneud drwg a bod mor greulon.
9
Pwy a ŵyr? Falle y bydd Duw yn newid ei feddwl ac yn stopio bod mor ddig gyda ni, a bydd dim rhaid i ni farw.”
10
Pan welodd Duw eu bod nhw wedi stopio gwneud y pethau drwg roedden nhw'n arfer eu gwneud, wnaeth e ddim eu cosbi nhw fel roedd e wedi bygwth gwneud cyn hynny.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4