bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Malachi 2
Malachi 2
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 3 →
1
Nawr, chi offeiriaid, dyma orchymyn i chi:
2
“Os wnewch chi ddim gwrando a phenderfynu dangos parch tuag ata i,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus— “bydda i'n dod â'r felltith arnoch chi, ac yn troi eich bendithion chi yn felltith. (Yn wir, dw i wedi gwneud hynny, am eich bod chi ddim o ddifrif.)
3
Bydda i'n ceryddu eich disgynyddion, a rhwbio eich wyneb yn y perfeddion — perfeddion aberthau eich gwyliau crefyddol, a byddwch yn cael eich taflu allan gyda nhw!
4
Byddwch yn gwybod wedyn mai fi roddodd y gorchymyn hwn i chi, fod fy ymrwymiad gyda Lefi i'w gadw,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.
5
“Roeddwn wedi ymrwymo i roi bywyd a heddwch iddo. Dyna rois i iddo, ac roedd e i fod i'm parchu ac ymostwng o'm blaen i.
6
Roedd i ddysgu'r gwir, a doedd e ddim i dwyllo; Roedd i fyw yn gwbl ufudd i mi, ac i droi llawer o bobl oddi wrth ddrwg.
7
Roedd geiriau offeiriad i amddiffyn y gwir, a'r hyn mae'n ei ddysgu i roi arweiniad i bobl; gan ei fod yn negesydd i'r ARGLWYDD holl-bwerus.
8
Ond dych chi wedi troi cefn ar y ffordd iawn; dych chi wedi dysgu pethau sydd wedi gwneud i lawer o bobl faglu. Dych chi wedi llygru'r ymrwymiad gyda Lefi,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.
9
“Felly dw i'n mynd i'ch gwneud chi'n rai sy'n cael eu diystyru a'u bychanu gan bawb, am nad ydych chi wedi bod yn ffyddlon i mi, a dydy'ch dysgeidiaeth chi ddim wedi bendithio pobl.”
10
Onid un tad sydd gynnon ni i gyd? Onid yr un Duw wnaeth ein creu ni? Felly pam ydyn ni'n anffyddlon i'n gilydd ac yn torri ymrwymiad ein tadau?
11
Mae pobl Jwda wedi bod yn anffyddlon, ac wedi gwneud pethau ffiaidd yn Israel a Jerwsalem. Maen nhw wedi halogi'r lle sanctaidd mae'r ARGLWYDD yn ei garu, drwy briodi merched sy'n addoli duwiau eraill.
12
Boed i'r ARGLWYDD daflu allan o bebyll Jacob bob un sy'n gwneud y fath beth, ac yna'n cyflwyno offrwm i'r ARGLWYDD holl-bwerus.
13
A dyma beth arall dych chi'n ei wneud: Dych chi'n gorchuddio allor yr ARGLWYDD gyda'ch dagrau, wrth wylo a chwyno am nad ydy e'n cymryd sylw o'ch offrwm chi ddim mwy, ac yn gwrthod derbyn eich rhodd.
14
“Ond pam?” meddech chi. Am fod yr ARGLWYDD yn dyst i'r addewidion wnest ti i dy wraig pan briodaist. Ti wedi bod yn anffyddlon iddi er mai hi ydy dy gymar di, a'r un wnest ti ymrwymo iddi drwy briodas.
15
Oni wnaeth Duw chi'n un? Gwnaeth chi'n un cnawd ac ysbryd. A beth sydd gan Dduw eisiau o'r undod? Onid plant duwiol? Felly gwyliwch eich hunain! Ddylai neb fod yn anffyddlon i'r wraig briododd pan yn ifanc.
16
“Dw i'n casáu ysgariad,” —meddai'r ARGLWYDD, Duw Israel— “a'r rhai sy'n euog o drais,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. Felly gwyliwch eich hunain! Ddylai neb fod yn anffyddlon.
17
Dych chi wedi blino'r ARGLWYDD â'ch holl siarad. “Sut ydyn ni wedi ei flino fe?” meddech chi, Trwy ddweud, “Mae pawb sy'n gwneud drwg yn dda yng ngolwg yr ARGLWYDD — mae wrth ei fodd gyda nhw!” neu trwy ofyn, “Ble mae'r Duw cyfiawn yma?”
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4