bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Malachi 4
Malachi 4
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
1
Ydy, mae'r diwrnod yn dod; mae fel ffwrnais yn llosgi. Bydd yr holl rai haerllug sy'n gwneud drwg yn cael eu llosgi fel bonion gwellt, ar y diwrnod sy'n dod,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. “Byddan nhw'n llosgi'n ulw nes bydd dim gwreiddyn na changen ar ôl.
2
Ond bydd haul cyfiawnder yn gwawrio arnoch chi sy'n fy mharchu i, a iachâd yn ei belydrau. Byddwch yn mynd allan, yn neidio fel llo wedi ei ollwng yn rhydd.
3
Byddwch yn sathru'r rhai drwg, a byddan nhw fel lludw dan eich traed ar y diwrnod y bydda i'n gweithredu,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.
4
Cofiwch ddysgeidiaeth Moses, fy ngwas; y rheolau a'r canllawiau rois iddo ar Fynydd Sinai ar gyfer Israel gyfan.
5
Edrychwch, dw i'n anfon y proffwyd Elias atoch chi cyn i ddiwrnod mawr a dychrynllyd yr ARGLWYDD ddod.
6
Bydd yn annog rhieni a phlant i droi'n ôl ata i, rhag i mi ddod a taro'r wlad, a'i dinistrio'n llwyr.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
All chapters:
1
2
3
4