bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Malachi 3
Malachi 3
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 4 →
1
“Edrychwch, dw i'n anfon fy negesydd, a bydd e'n paratoi'r ffordd ar fy nghyfer i. Ac yn sydyn, bydd y Meistr dych chi'n ei geisio yn dod i'w deml. Ydy, mae angel yr ymrwymiad, dych chi'n honni ei hoffi, ar ei ffordd!” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.
2
Ond pa obaith sydd ar y diwrnod pan ddaw? Pwy all oroesi pan ddaw i'r golwg? Achos mae e fel tân sy'n toddi metel neu sebon y golchwr.
3
Bydd yn eistedd fel un sy'n coethi arian; ac yn puro disgynyddion Lefi — bydd yn eu gloywi fel aur ac arian, er mwyn iddyn nhw gyflwyno offrymau iawn i'r ARGLWYDD.
4
Bryd hynny bydd offrymau Jwda a Jerwsalem yn plesio'r ARGLWYDD fel roedden nhw ers talwm, yn yr hen ddyddiau.
5
“Dw i'n mynd i ddod atoch chi i farnu; dw i'n barod i dystio yn erbyn pawb sydd ddim yn fy mharchu — y rhai sy'n dewino ac yn godinebu, sy'n dweud celwydd ar lw, sy'n gormesu gweithwyr (trwy atal eu cyflog), yn cam-drin gweddwon a phlant amddifad, ac yn gwrthod eu hawliau i fewnfudwyr,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.
6
“Ie, fi ydy'r ARGLWYDD, a dw i ddim wedi newid, a dych chi ddim wedi stopio bod yn blant i'ch tad Jacob!”
7
“Ers canrifoedd dych chi wedi bod yn troi cefn ar fy neddfau, a ddim yn eu cadw. Trowch yn ôl ata i, a bydda i'n troi atoch chi” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. “Pam bod angen i ni droi'n ôl?” meddech chi.
8
“Ydy'n iawn i ddwyn oddi ar Dduw? Ac eto dych chi'n dwyn oddi arna i.” “Sut ydyn ni'n dwyn oddi arnat ti?” meddech chi. “Trwy gadw'r degymau a'r offrymau.
9
Dych chi'n diodde melltith, am eich bod chi'n dwyn oddi arna i — ie, y cwbl lot ohonoch chi!
10
Dewch â'r degwm llawn i'r stordy, fel bod yna fwyd yn fy nheml. Ie, rhowch fi ar brawf,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus— “a chewch weld y bydda i'n agor llifddorau'r nefoedd ac yn tywallt bendith arnoch chi; fyddwch chi'n brin o ddim byd!
11
Bydda i'n cael gwared â'r locustiaid, rhag iddyn nhw ddinistrio cnydau'r tir; fydd y gwinwydd yn y winllan ddim yn methu,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.
12
“Bydd y gwledydd eraill i gyd yn dweud eich bod wedi eich bendithio, am eich bod yn byw mewn gwlad mor hyfryd,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.
13
“Dych chi wedi dweud pethau ofnadwy yn fy erbyn i,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. “Beth ydyn ni wedi ei ddweud yn dy erbyn di?” meddech chi.
14
“Chi'n dweud, ‘Does dim pwynt gwasanaethu Duw. Beth ydyn ni wedi ei ennill o wrando arno a mynd o gwmpas yn edrych yn drist o flaen yr ARGLWYDD holl-bwerus?
15
Mae'r bobl sy'n haerllug yn hapus! — maen nhw'n gwneud drwg ac yn llwyddo; maen nhw'n herio Duw ac yn dianc!’”
16
Ond yna, dyma'r rhai oedd wir yn parchu'r ARGLWYDD yn trafod gyda'i gilydd. Clywodd yr ARGLWYDD nhw, a chymryd sylw o'r peth, a gorchymyn i gofnod gael ei ysgrifennu yn y sgrôl sy'n rhestru'r rhai sy'n parchu'r ARGLWYDD ac yn meddwl yn uchel ohono.
17
“Nhw fydd fy mhobl i,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus— “fy nhrysor sbesial ar y diwrnod sy'n dod. Bydda i'n gofalu amdanyn nhw fel mae tad yn gofalu am fab sy'n gweithio iddo.
18
Byddwch chi'n gweld y gwahaniaeth rhwng yr un sydd wedi byw'n iawn a'r rhai drwg, rhwng y sawl sy'n gwasanaethu Duw a'r rhai sydd ddim.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4