bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Nahum 1
Nahum 1
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 2 →
1
Neges am ddinas Ninefe: Cofnod o weledigaeth Nahum o Elcosh.
2
Mae'r ARGLWYDD yn Dduw eiddigeddus sy'n dial; Mae'r ARGLWYDD yn dial, ac mae ei ddicter yn ffyrnig. Mae'r ARGLWYDD yn dial ar ei elynion, ac yn wyllt gyda'i wrthwynebwyr.
3
Mae'r ARGLWYDD yn amyneddgar ac yn gryf — ond dydy e ddim yn gadael i'r euog osgoi'r gosb. Mae'n martsio yn y corwynt a'r storm, ac mae'r cymylau fel llwch dan ei draed.
4
Mae'n gweiddi ar y môr a'i sychu, ac yn sychu'r afonydd i gyd. Mae porfa Bashan a Carmel yn gwywo, ac mae blodau Libanus yn gwywo.
5
Mae'r mynyddoedd yn crynu a'r bryniau'n toddi o'i flaen. Mae'r tir yn troi'n ddiffeithwch o'i flaen, y byd, a phopeth sy'n byw ynddo.
6
Pwy all oroesi o flaen ei ddicter? Pwy all wrthsefyll ei ffyrnigrwydd? Mae'n tywallt ei lid fel tân, ac mae'r creigiau'n cael eu dryllio ganddo.
7
Mae'r ARGLWYDD yn dda, ac yn gaer ddiogel mewn argyfwng; Mae'n gofalu am y rhai sy'n troi ato am help.
8
Ond mae'n gyrru ei elynion i'r tywyllwch; fel llifogydd sy'n ysgubo popeth ymaith, bydd yn rhoi diwedd ar Ninefe'n llwyr.
9
Unrhyw gynlluniau sydd gen ti yn ei erbyn, bydd yr ARGLWYDD yn eu dinistrio'n llwyr: fydd ei elyn ddim yn codi yn ei erbyn yr ail waith!
10
Byddan nhw fel dynion wedi meddwi'n gaib; Byddan nhw'n cael eu llosgi fel drysni o ddrain, neu fonion gwellt wedi sychu'n llwyr.
11
Ohonot ti, Ninefe, y daeth un oedd yn cynllwynio drwg yn erbyn yr ARGLWYDD — strategydd drygioni!
12
Ond dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Er eu bod nhw'n gryf ac yn niferus, byddan nhw'n cael eu torri i lawr, ac yn diflannu. Er fy mod i wedi dy gosbi di, Jwda, fydda i ddim yn dy gosbi di eto;
13
dw i'n mynd i dorri'r iau roddodd e ar dy war a dryllio'r rhaffau sy'n dy rwymo.”
14
Mae'r ARGLWYDD wedi datgan am Ninefe: “Fydd gen ti ddim disgynyddion bellach. Dw i'n mynd i gael gwared â'r eilunod a'r delwau metel o demlau dy dduwiau. Bydda i'n paratoi bedd i ti fydd yn dangos mor ddibwys oeddet ti.”
15
Edrychwch! Mae negesydd yn dod dros y mynyddoedd yn cyhoeddi heddwch! “Dathla dy wyliau crefyddol, O Jwda, a chadw dy addewidion! Fydd y rhai drwg byth yn dy orchfygu eto; byddan nhw'n cael eu dinistrio'n llwyr.”
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3