bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Nahum 2
Nahum 2
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
1
Ninefe, mae'r ‛chwalwr‛ yn dod i ymosod! “Gosod filwyr i amddiffyn dy waliau!” “Gwylia'r ffordd! Gwna dy hun yn barod! Casgla dy rym milwrol!”
2
(Mae'r ARGLWYDD yn adfer anrhydedd ei bobl — gwinwydden Jacob, ac Israel hefyd. Roedd fandaliaid wedi dod a'i dinistrio, a difetha ei changhennau.)
3
Mae tarianau ei filwyr yn goch, arwyr sy'n gwisgo ysgarlad; Mae'r cerbydau dur fel fflamau o dân yn barod i ymosod, a'r gwaywffyn yn cael eu chwifio.
4
Mae'r cerbydau'n rhuthro'n wyllt drwy'r strydoedd, ac yn rasio yn ôl ac ymlaen drwy'r sgwâr. Maen nhw'n fflachio fel ffaglau tân, ac yn gwibio fel mellt.
5
Mae'n galw ei swyddogion i ymosod; maen nhw'n baglu wrth wthio yn eu blaenau, yn rhuthro, hyrddio at y wal, a chodi sgrîn amddiffyn i gysgodi dani.
6
Mae'r llifddorau'n agor a'r palas ar fin syrthio.
7
Stripio'r frenhines a'i chymryd i'r gaethglud, a'i morynion yn cŵan fel colomennod, yn galaru gan guro eu bronnau.
8
Mae Ninefe fel argae wedi torri — mae pawb yn dianc ohoni! “Stopiwch! Stopiwch!” — ond does neb yn troi yn ôl.
9
“Cymerwch yr arian! Cymerwch yr aur!” Mae trysorau Ninefe'n ddiddiwedd; mae pob math o bethau gwerthfawr ynddi!
10
Distryw, difrod, a dinistr! Calonnau'n toddi, gliniau'n crynu, lwynau gwan, wynebau gwelw!
11
Beth sydd wedi digwydd i ffau'r llewod? Ble mae'r llewod ifanc i gael eu bwydo? Byddai'r llew a'r llewes yn cerdded yno, a'u cenawon yn saff, a neb yn eu tarfu.
12
Ble mae'r llew oedd yn rhwygo'i ysglyfaeth — ei ladd i'w lewesau a'i roi i'w rai bach? Roedd ei ogof yn llawn ysglyfaeth a'i ffau'n llawn cnawd wedi ei ddryllio.
13
“Dw i'n mynd i ddelio gyda ti,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. “Bydda i'n llosgi dy gerbydau'n llwyr; bydd dy ‛lewod ifanc‛ yn marw'n y frwydr. Dw i'n mynd i gael gwared â'th ysglyfaeth o'r tir, a fydd neb eto'n clywed llais dy negeswyr.”
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3