bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Nahum 3
Nahum 3
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
1
Gwae ddinas y tywallt gwaed, sy'n llawn celwyddau ac yn llawn trais, a'r lladd byth yn stopio!
2
Daeth sŵn clec y chwip a thwrw'r olwynion, meirch yn carlamu a cherbydau'n crynu!
3
Marchogion yn ymosod, cleddyfau'n fflachio, gwaywffyn yn disgleirio! Pobl wedi eu lladd ym mhobman; tomenni diddiwedd o gyrff — maen nhw'n baglu dros y meirwon!
4
A'r cwbl o achos drygioni'r butain ddeniadol oedd yn feistres swynion, yn gwerthu ei hun i'r cenhedloedd a swyno a thwyllo pobloedd.
5
“Dw i'n mynd i ddelio gyda ti,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. “Bydda i'n dy gywilyddio di — yn codi dy sgert dros dy wyneb; bydd y cenhedloedd yn dy weld yn noeth a theyrnasoedd yn gweld dy rannau preifat!
6
Bydda i'n taflu budreddi ar dy ben, a'th wneud yn destun sbort ac yn sioe.
7
Fydd neb yn gallu edrych yn hir — Bydd pawb yn troi i ffwrdd a dweud, ‘Mae Ninefe'n adfeilion, a does neb yn cydymdeimlo!’ Ble wna i ddod o hyd i rywun i dy gysuro di, Ninefe?”
8
Wyt ti'n saffach na Thebes, ar lan yr afon Nil? Roedd y dŵr fel môr yn glawdd o'i chwmpas, a'r afon fel rhagfur iddi.
9
Roedd yn rheoli'r Aifft a dwyrain Affrica; roedd ei grym yn ddi-ben-draw! — mewn cynghrair â Pwt a Libia.
10
Ond cafodd ei phobl eu caethgludo, a'i phlant bach eu curo i farwolaeth ar gornel pob stryd. Roedden nhw'n gamblo am ei phobl bwysig, ac yn rhwymo ei harweinwyr â chadwyni.
11
Byddi dithau hefyd yn feddw ac wedi dy faeddu. Byddi dithau'n ceisio cuddio rhag y gelyn.
12
Bydd dy gaerau i gyd fel coed ffigys gyda'i ffrwythau cynta'n aeddfed. O'u hysgwyd bydd y ffrwyth yn syrthio i gegau'r rhai sydd am eu bwyta!
13
Bydd dy filwyr fel merched gwan yn dy ganol; a giatiau dy wlad ar agor i'r gelyn; bydd tân yn llosgi'r barrau sy'n eu cloi.
14
Dos i dynnu dŵr i'w gadw ar gyfer y gwarchae! Cryfha dy gaerau! Cymer fwd a sathra'r clai, a gwneud brics yn y mowld!
15
Bydd tân yn dy losgi di yno, a'r cleddyf yn dy dorri i lawr — cei dy ddifa fel cnwd gan lindys. Lluosoga fel y lindys, ac fel y locust ifanc;
16
roedd gen ti fwy o fasnachwyr nag sydd o sêr yn yr awyr. Ond maen nhw fel lindys yn bwrw'i groen a hedfan i ffwrdd.
17
Roedd dy warchodwyr a'th weision sifil fel haid o locustiaid yn eistedd ar waliau ar ddiwrnod oer; ond pan mae'r haul yn codi maen nhw'n hedfan i ffwrdd, a does neb yn gwybod i ble.
18
Mae dy fugeiliaid yn cysgu, frenin Asyria! Mae dy arweinwyr yn pendwmpian! Mae dy bobl fel defaid ar wasgar dros y bryniau, a does neb i'w casglu.
19
Does dim gwella ar dy glwyf — mae dy anaf yn farwol. Bydd pawb fydd yn clywed y newyddion amdanat yn dathlu a curo dwylo. Oes rhywun wnaeth ddianc rhag dy greulondeb diddiwedd?
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
All chapters:
1
2
3