bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Corinthians 1
1 Corinthians 1
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 2 →
1
Paul, wedi ei alw i fod yn apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, a'r brawd Sosthenes,
2
At eglwys Dduw yr hon sydd yng Nghorinth, at y rhai a sancteiddiwyd yng Nghrist Iesu, a alwyd yn saint, gyda phawb ag sydd yn galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist, ym mhob man, o'r eiddynt hwy a ninnau:
3
Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad ni, a'r Arglwydd Iesu Grist.
4
Yr ydwyf yn diolch i'm Duw bob amser drosoch chwi, am y gras Duw a rodded i chwi yng Nghrist Iesu;
5
Am eich bod ym mhob peth wedi eich cyfoethogi ynddo ef, mewn pob ymadrodd, a phob gwybodaeth;
6
Megis y cadarnhawyd tystiolaeth Crist ynoch:
7
Fel nad ydych yn ôl mewn un dawn, yn disgwyl am ddatguddiad ein Harglwydd Iesu Grist:
8
Yr hwn hefyd a'ch cadarnha chwi hyd y diwedd, yn ddiargyhoedd, yn nydd ein Harglwydd Iesu Grist.
9
Ffyddlon yw Duw, trwy yr hwn y'ch galwyd i gymdeithas ei Fab ef Iesu Grist ein Harglwydd ni.
10
Ac yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, trwy enw ein Harglwydd Iesu Grist, ddywedyd o bawb ohonoch chwi yr un peth, ac na byddo ymbleidio yn eich plith; eithr bod ohonoch wedi eich cyfan gysylltu yn yr un meddwl, ac yn yr un farn.
11
Canys fe ddangoswyd i mi amdanoch chwi, fy mrodyr, gan y rhai sydd o dŷ Chlöe, fod cynhennau yn eich plith chwi.
12
A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, bod pob un ohonoch yn dywedyd, Yr ydwyf fi yn eiddo Paul; minnau yn eiddo Apolos; minnau yn eiddo Ceffas; minnau yn eiddo Crist.
13
A rannwyd Crist? ai Paul a groeshoeliwyd drosoch? neu ai yn enw Paul y'ch bedyddiwyd chwi?
14
Yr ydwyf yn diolch i Dduw, na fedyddiais i neb ohonoch, ond Crispus a Gaius;
15
Fel na ddywedo neb fedyddio ohonof fi yn fy enw fy hun.
16
Mi a fedyddiais hefyd dylwyth Steffanas: heblaw hynny nis gwn a fedyddiais i neb arall.
17
Canys nid anfonodd Crist fi i fedyddio, ond i efengylu; nid mewn doethineb ymadrodd, fel na wnelid croes Crist yn ofer.
18
Canys yr ymadrodd am y groes, i'r rhai colledig, ynfydrwydd yw; eithr i ni'r rhai cadwedig, nerth Duw ydyw.
19
Canys ysgrifenedig yw, Mi a ddifethaf ddoethineb y doethion, a deall y rhai deallus a ddileaf.
20
Pa le y mae'r doeth? pa le mae'r ysgrifennydd? pa le y mae ymholydd y byd hwn? oni wnaeth Duw ddoethineb y byd hwn yn ynfydrwydd?
21
Canys oherwydd yn noethineb Duw, nad adnabu'r byd trwy ddoethineb mo Dduw, fe welodd Duw yn dda trwy ffolineb pregethu gadw y rhai sydd yn credu.
22
Oblegid y mae'r Iddewon yn gofyn arwydd, a'r Groegwyr yn ceisio doethineb:
23
Eithr nyni ydym yn pregethu Crist wedi ei groeshoelio, i'r Iddewon yn dramgwydd, ac i'r Groegwyr yn ffolineb;
24
Ond iddynt hwy y rhai a alwyd, Iddewon a Groegwyr, yn Grist gallu Duw, a doethineb Duw.
25
Canys y mae ffolineb Duw yn ddoethach na dynion; a gwendid Duw yn gryfach na dynion.
26
Canys yr ydych yn gweled eich galwedigaeth, frodyr, nad llawer o rai doethion yn ôl y cnawd, nad llawer o rai galluog, nad llawer o rai boneddigion, a alwyd:
27
Eithr Duw a etholodd ffôl bethau'r byd, fel y gwaradwyddai'r doethion; a gwan bethau'r byd a etholodd Duw, fel y gwaradwyddai'r pethau cedyrn;
28
A phethau distadl y byd, a phethau dirmygus, a ddewisodd Duw, a'r pethau nid ydynt, fel y diddymai'r pethau sydd:
29
Fel na orfoleddai un cnawd ger ei fron ef.
30
Eithr yr ydych chwi ohono ef yng Nghrist Iesu, yr hwn a wnaethpwyd i ni gan Dduw yn ddoethineb, ac yn gyfiawnder, ac yn sancteiddrwydd, ac yn brynedigaeth:
31
Fel megis ag y mae yn ysgrifenedig, Yr hwn sydd yn ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16