bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Corinthians 16
1 Corinthians 16
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
1
Hefyd am y gasgl i'r saint; megis yr ordeiniais i eglwysi Galatia, felly gwnewch chwithau.
2
Y dydd cyntaf o'r wythnos, pob un ohonoch rhodded heibio yn ei ymyl, gan drysori, fel y llwyddodd Duw ef, fel na byddo casgl pan ddelwyf fi.
3
A phan ddelwyf, pa rai bynnag a ddangosoch eu bod yn gymeradwy trwy lythyrau, y rhai hynny a ddanfonaf i ddwyn eich rhodd i Jerwsalem.
4
Ac os bydd y peth yn haeddu i minnau hefyd fyned, hwy a gânt fyned gyda mi.
5
Eithr mi a ddeuaf atoch, gwedi yr elwyf trwy Facedonia; (canys trwy Facedonia yr wyf yn myned.)
6
Ac nid hwyrach yr arhosaf gyda chwi, neu y gaeafaf hefyd, fel y'm hebryngoch i ba le bynnag yr elwyf.
7
Canys nid oes i'm bryd eich gweled yn awr ar fy hynt; ond yr wyf yn gobeithio yr arhosaf ennyd gyda chwi, os cenhada'r Arglwydd.
8
Eithr mi a arhosaf yn Effesus hyd y Sulgwyn.
9
Canys agorwyd i mi ddrws mawr a grymus, ac y mae gwrthwynebwyr lawer.
10
Ac os Timotheus a ddaw, edrychwch ar ei fod yn ddi‐ofn gyda chwi: canys gwaith yr Arglwydd y mae yn ei weithio, fel finnau.
11
Am hynny na ddiystyred neb ef: ond hebryngwch ef mewn heddwch, fel y delo ataf fi: canys yr wyf fi yn ei ddisgwyl ef gyda'r brodyr.
12
Ac am y brawd Apolos, mi a ymbiliais lawer ag ef am ddyfod atoch chwi gyda'r brodyr: eithr er dim nid oedd ei ewyllys ef i ddyfod yr awron; ond efe a ddaw pan gaffo amser cyfaddas.
13
Gwyliwch, sefwch yn y ffydd, ymwrolwch, ymgryfhewch.
14
Gwneler eich holl bethau chwi mewn cariad.
15
Ond yr ydwyf yn atolwg i chwi, frodyr, (chwi a adwaenoch dŷ Steffanas, mai blaenffrwyth Achaia ydyw, ac iddynt ymosod i weinidogaeth y saint,)
16
Fod ohonoch chwithau yn ddarostyngedig i'r cyfryw, ac i bob un sydd yn cydweithio, ac yn llafurio.
17
Ac yr ydwyf yn llawen am ddyfodiad Steffanas, Ffortunatus, ac Achaicus: canys eich diffyg chwi hwy a'i cyflawnasant;
18
Canys hwy a esmwythasant ar fy ysbryd i, a'r eiddoch chwithau: cydnabyddwch gan hynny y cyfryw rai.
19
Y mae eglwysi Asia yn eich annerch chwi. Y mae Acwila a Phriscila, gyda'r eglwys sydd yn eu tŷ hwynt, yn eich annerch chwi yn yr Arglwydd yn fynych.
20
Y mae'r brodyr oll yn eich annerch. Annerchwch eich gilydd â chusan sancteiddol.
21
Yr annerch â'm llaw i Paul fy hun.
22
Od oes neb nid yw yn caru'r Arglwydd Iesu Grist, bydded Anathema, Maranatha.
23
Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda chwi.
24
Fy serch innau a fo gyda chwi oll yng Nghrist Iesu. Amen. Yr epistol cyntaf at y Corinthiaid a ysgrifennwyd o Philipi, gyda Steffanas, a Ffortunatus, ac Achaicus, a Thimotheus.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16