bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Corinthians 5
1 Corinthians 5
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 6 →
1
Mae'r gair yn hollol, fod yn eich plith chwi odineb, a chyfryw odineb ag na enwir unwaith ymysg y Cenhedloedd; sef cael o un wraig ei dad.
2
Ac yr ydych chwi wedi ymchwyddo, ac ni alarasoch yn hytrach, fel y tynnid o'ch mysg chwi y neb a wnaeth y weithred hon.
3
Canys myfi yn ddiau, fel absennol yn y corff, eto yn bresennol yn yr ysbryd, a fernais eisoes, fel pe bawn bresennol, am yr hwn a wnaeth y peth hwn felly,
4
Yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, pan ymgynulloch ynghyd, a'm hysbryd innau, gyda gallu ein Harglwydd Iesu Grist,
5
Draddodi'r cyfryw un i Satan, i ddinistr y cnawd, fel y byddo'r ysbryd yn gadwedig yn nydd yr Arglwydd Iesu.
6
Nid da eich gorfoledd chwi. Oni wyddoch chwi fod ychydig lefain yn lefeinio'r holl does?
7
Am hynny certhwch allan yr hen lefain, fel y byddoch does newydd, megis yr ydych ddilefeinllyd. Canys Crist ein pasg ni a aberthwyd drosom ni:
8
Am hynny cadwn ŵyl, nid â hen lefain, nac â lefain malais a drygioni; ond â bara croyw purdeb a gwirionedd.
9
Mi a ysgrifennais atoch mewn llythyr, na chydymgymysgech â godinebwyr:
10
Ac nid yn hollol â godinebwyr y byd hwn, neu â'r cybyddion, neu â'r cribddeilwyr, neu ag eilun‐addolwyr; oblegid felly rhaid fyddai i chwi fyned allan o'r byd.
11
Ond yn awr mi a ysgrifennais atoch, na chydymgymysgech, os bydd neb a enwir yn frawd yn odinebwr, neu yn gybydd, neu yn eilun‐addolwr, neu yn ddifenwr, neu yn feddw, neu yn gribddeiliwr; gyda'r cyfryw ddyn na chydfwyta chwaith.
12
Canys beth sydd i mi a farnwyf ar y rhai sydd oddi allan? onid y rhai sydd oddi mewn yr ydych chwi yn eu barnu?
13
Eithr y rhai sydd oddi allan, Duw sydd yn eu barnu. Bwriwch chwithau ymaith y dyn drygionus hwnnw o'ch plith chwi.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16