bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Colossians 2
Colossians 2
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 3 →
1
Canys mi a ewyllysiwn i chwi wybod pa faint o ymdrech sydd arnaf er eich mwyn chwi, a'r rhai yn Laodicea, a chynifer ag ni welsant fy wyneb i yn y cnawd;
2
Fel y cysurid eu calonnau hwy, wedi eu cydgysylltu mewn cariad, ac i bob golud sicrwydd deall, i gydnabyddiaeth dirgelwch Duw, a'r Tad, a Christ;
3
Yn yr hwn y mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig.
4
A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, fel na thwyllo neb chwi ag ymadrodd hygoel.
5
Canys er fy mod i yn absennol yn y cnawd, er hynny yr ydwyf gyda chwi yn yr ysbryd, yn llawenychu, ac yn gweled eich trefn chwi, a chadernid eich ffydd yng Nghrist.
6
Megis gan hynny y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd, felly rhodiwch ynddo;
7
Wedi eich gwreiddio a'ch adeiladu ynddo ef, a'ch cadarnhau yn y ffydd, megis y'ch dysgwyd, gan gynyddu ynddi mewn diolchgarwch.
8
Edrychwch na bo neb yn eich anrheithio trwy philosophi a gwag dwyll, yn ôl traddodiad dynion, yn ôl egwyddorion y byd, ac nid yn ôl Crist.
9
Oblegid ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio yn gorfforol.
10
Ac yr ydych chwi wedi eich cyflawni ynddo ef, yr hwn yw pen pob tywysogaeth ac awdurdod:
11
Yn yr hwn hefyd y'ch enwaedwyd ag enwaediad nid o waith llaw, trwy ddiosg corff pechodau'r cnawd, yn enwaediad Crist:
12
Wedi eich cydgladdu ag ef yn y bedydd, yn yr hwn hefyd y'ch cyd-gyfodwyd trwy ffydd gweithrediad Duw yr hwn a'i cyfododd ef o feirw.
13
A chwithau, pan oeddech yn feirw mewn camweddau, a dienwaediad eich cnawd, a gydfywhaodd efe gydag ef, gan faddau i chwi yr holl gamweddau;
14
Gan ddileu ysgrifen‐law yr ordeiniadau, yr hon oedd i'n herbyn ni, yr hon oedd yng ngwrthwyneb i ni, ac a'i cymerodd hi oddi ar y ffordd, gan ei hoelio wrth y groes;
15
Gan ysbeilio'r tywysogaethau a'r awdurdodau, efe a'u harddangosodd hwy ar gyhoedd, gan ymorfoleddu arnynt arni hi.
16
Am hynny na farned neb arnoch chwi am fwyd, neu am ddiod, neu o ran dydd gŵyl, neu newyddloer, neu Sabothau:
17
Y rhai ydynt gysgod pethau i ddyfod; ond y corff sydd o Grist.
18
Na thwylled neb chwi am eich gwobr, wrth ei ewyllys, mewn gostyngeiddrwydd, ac addoliad angylion, gan ruthro i bethau nis gwelodd, wedi ymchwyddo yn ofer gan ei feddwl cnawdol ei hun;
19
Ac heb gyfatal y Pen, o'r hwn y mae'r holl gorff, trwy'r cymalau a'r cysylltiadau, yn derbyn lluniaeth, ac wedi ei gydgysylltu, yn cynyddu gan gynnydd Duw.
20
Am hynny, os ydych wedi marw gyda Christ oddi wrth egwyddorion y byd, paham yr ydych, megis petech yn byw yn y byd, yn ymroi i ordeiniadau,
21
(Na chyffwrdd; ac nac archwaetha; ac na theimla;
22
Y rhai ydynt oll yn llygredigaeth wrth eu harfer;) yn ôl gorchmynion ac athrawiaethau dynion?
23
Yr hyn bethau sydd ganddynt rith doethineb mewn ewyllys‐grefydd, a gostyngeiddrwydd, a bod heb arbed y corff, nid mewn bri i ddigoni'r cnawd.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4