bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Colossians 4
Colossians 4
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
1
Y meistriaid, gwnewch i'ch gweision yr hyn sydd gyfiawn ac union; gan wybod fod i chwithau Feistr yn y nefoedd.
2
Parhewch mewn gweddi, gan wylied ynddi gyda diolchgarwch;
3
Gan weddïo hefyd drosom ninnau, ar i Dduw agori i ni ddrws ymadrodd, i adrodd dirgelwch Crist, am yr hwn yr ydwyf hefyd mewn rhwymau:
4
Fel yr eglurhawyf ef, megis y mae yn rhaid i mi ei draethu.
5
Rhodiwch mewn doethineb tuag at y rhai sydd allan, gan brynu'r amser.
6
Bydded eich ymadrodd bob amser yn rasol, wedi ei dymheru â halen, fel y gwypoch pa fodd y mae yn rhaid i chwi ateb i bob dyn.
7
Fy holl helynt i a fynega Tychicus i chwi, y brawd annwyl, a'r gweinidog ffyddlon, a'r cyd‐was yn yr Arglwydd:
8
Yr hwn a ddanfonais atoch er mwyn hyn, fel y gwybyddai eich helynt chwi, ac y diddanai eich calonnau chwi;
9
Gydag Onesimus, y ffyddlon a'r annwyl frawd, yr hwn sydd ohonoch chwi. Hwy a hysbysant i chwi bob peth a wneir yma.
10
Y mae Aristarchus, fy nghyd‐garcharor, yn eich annerch; a Marc, nai Barnabas fab ei chwaer, (am yr hwn y derbyniasoch orchmynion: os daw efe atoch, derbyniwch ef;)
11
A Jesus, yr hwn a elwir Jwstus, y rhai ydynt o'r enwaediad. Y rhai hyn yn unig yw fy nghyd‐weithwyr i deyrnas Dduw, y rhai a fuant yn gysur i mi.
12
Y mae Epaffras, yr hwn sydd ohonoch, gwas Crist, yn eich annerch, gan ymdrechu yn wastadol drosoch mewn gweddïau, ar i chwi sefyll yn berffaith ac yn gyflawn yng nghwbl o ewyllys Duw.
13
Canys yr ydwyf yn dyst iddo, fod ganddo sêl mawr trosoch chwi, a'r rhai o Laodicea, a'r rhai o Hierapolis.
14
Y mae Luc y ffisigwr annwyl, a Demas, yn eich annerch.
15
Anerchwch y brodyr sydd yn Laodicea, a Nymffas, a'r eglwys sydd yn ei dŷ ef.
16
Ac wedi darllen yr epistol hwn gyda chwi, perwch ei ddarllen hefyd yn eglwys y Laodiceaid: a darllen ohonoch chwithau yr un o Laodicea.
17
A dywedwch wrth Archipus, Edrych at y weinidogaeth a dderbyniaist yn yr Arglwydd, ar i ti ei chyflawni hi.
18
Yr annerch â'm llaw i Paul fy hun. Cofiwch fy rhwymau. Gras fyddo gyda chwi. Amen. At y Colosiaid yr ysgrifennwyd o Rufain, gyda Thychicus ac Onesimus.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
All chapters:
1
2
3
4
Recommended Reading
Commentary
Colossians Commentaries
→
Devotional
Colossians Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→