bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Colossians 3
Colossians 3
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 4 →
1
Am hynny os cydgyfodasoch gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod, lle mae Crist yn eistedd ar ddeheulaw Duw.
2
Rhoddwch eich serch ar bethau sydd uchod, nid ar bethau sydd ar y ddaear.
3
Canys meirw ydych, a'ch bywyd a guddiwyd gyda Christ yn Nuw.
4
Pan ymddangoso Crist ein bywyd ni, yna hefyd yr ymddangoswch chwithau gydag ef mewn gogoniant.
5
Marwhewch gan hynny eich aelodau, y rhai sydd ar y ddaear; godineb, aflendid, gwŷn, drygchwant, a chybydd‐dod, yr hon sydd eilun‐addoliaeth:
6
O achos yr hyn bethau y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufudd‐dod:
7
Yn y rhai hefyd y rhodiasoch chwithau gynt, pan oeddech yn byw ynddynt.
8
Ond yr awron rhoddwch chwithau ymaith yr holl bethau hyn; dicter, llid, drygioni, cabledd, serthedd, allan o'ch genau.
9
Na ddywedwch gelwydd wrth eich gilydd, gan ddarfod i chwi ddiosg yr hen ddyn ynghyd â'i weithredoedd;
10
A gwisgo'r newydd, yr hwn a adnewyddir mewn gwybodaeth, yn ôl delw yr hwn a'i creodd ef:
11
Lle nid oes na Groegwr nac Iddew, enwaediad na dienwaediad, Barbariad na Scythiad, caeth na rhydd: ond Crist sydd bob peth, ac ym mhob peth.
12
Am hynny, (megis etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl,) gwisgwch amdanoch ymysgaroedd trugareddau, cymwynasgarwch, gostyngeiddrwydd, addfwynder, ymaros;
13
Gan gyd‐ddwyn â'ch gilydd, a maddau i'ch gilydd, os bydd gan neb gweryl yn erbyn neb: megis ag y maddeuodd Crist i chwi, felly gwnewch chwithau.
14
Ac am ben hyn oll, gwisgwch gariad, yr hwn yw rhwymyn perffeithrwydd.
15
A llywodraethed tangnefedd Duw yn eich calonnau, i'r hwn hefyd y'ch galwyd yn un corff; a byddwch ddiolchgar.
16
Preswylied gair Crist ynoch yn helaeth ym mhob doethineb; gan ddysgu a rhybuddio bawb eich gilydd mewn salmau, a hymnau, ac odlau ysbrydol, gan ganu trwy ras yn eich calonnau i'r Arglwydd.
17
A pha beth bynnag a wneloch, ar air neu ar weithred, gwnewch bob peth yn enw'r Arglwydd Iesu, gan ddiolch i Dduw a'r Tad trwyddo ef.
18
Y gwragedd, ymostyngwch i'ch gwŷr priod, megis y mae yn weddus yn yr Arglwydd.
19
Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, ac na fyddwch chwerwon wrthynt.
20
Y plant, ufuddhewch i'ch rhieni ym mhob peth: canys hyn sydd yn rhyngu bodd i'r Arglwydd yn dda.
21
Y tadau, na chyffrowch eich plant, fel na ddigalonnont.
22
Y gweision, ufuddhewch ym mhob peth i'ch meistriaid yn ôl y cnawd; nid â llygad‐wasanaeth, fel bodlonwyr dynion, eithr mewn symlrwydd calon, yn ofni Duw:
23
A pha beth bynnag a wneloch, gwnewch o'r galon, megis i'r Arglwydd, ac nid i ddynion;
24
Gan wybod mai gan yr Arglwydd y derbyniwch daledigaeth yr etifeddiaeth: canys yr Arglwydd Crist yr ydych yn ei wasanaethu.
25
Ond yr hwn sydd yn gwneuthur cam, a dderbyn am y cam a wnaeth: ac nid oes derbyn wyneb.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
Recommended Reading
Commentary
Colossians Commentaries
→
Devotional
Colossians Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→