bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Daniel 1
Daniel 1
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 2 →
1
Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Jehoiacim brenin Jwda, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon i Jerwsalem, ac a warchaeodd arni.
2
A'r ARGLWYDD a roddes i'w law ef Jehoiacim brenin Jwda, a rhan o lestri tŷ DDUW; yntau a'u dug hwynt i wlad Sinar, i dŷ ei dduw ef; ac i drysordy ei dduw y dug efe y llestri.
3
A dywedodd y brenin wrth Aspenas ei ben‐ystafellydd, am ddwyn o feibion Israel, ac o'r had brenhinol, ac o'r tywysogion,
4
Fechgyn y rhai ni byddai ynddynt ddim gwrthuni, eithr yn dda yr olwg, a deallgar ym mhob doethineb, ac yn gwybod gwybodaeth, ac yn deall cyfarwyddyd, a'r rhai y byddai grym ynddynt i sefyll yn llys y brenin, i'w dysgu ar lyfr ac yn iaith y Caldeaid.
5
A'r brenin a ddognodd iddynt ran beunydd o fwyd y brenin, ac o'r gwin a yfai efe; felly i'w maethu hwynt dair blynedd, fel y safent ar ôl hynny gerbron y brenin.
6
Ac yr ydoedd yn eu plith hwynt o feibion Jwda, Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia:
7
A'r pen‐ystafellydd a osododd arnynt enwau: canys ar Daniel y gosododd efe Beltesassar; ac ar Hananeia, Sadrach; ac ar Misael, Mesach; ac ar Asareia, Abednego.
8
A Daniel a roddes ei fryd nad ymhalogai efe trwy ran o fwyd y brenin, na thrwy y gwin a yfai efe: am hynny efe a ddymunodd ar y pen‐ystafellydd, na byddai raid iddo ymhalogi.
9
A DUW a roddes Daniel mewn ffafr a thiriondeb gyda'r pen‐ystafellydd.
10
A'r pen‐ystafellydd a ddywedodd wrth Daniel, Ofni yr ydwyf fi fy arglwydd y brenin, yr hwn a osododd eich bwyd chwi a'ch diod chwi: oherwydd paham y gwelai efe eich wynebau yn gulach na'r bechgyn sydd fel chwithau? felly y parech fy mhen yn ddyledus i'r brenin.
11
Yna y dywedodd Daniel wrth Melsar, yr hwn a osodasai y pen‐ystafellydd ar Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia,
12
Prawf, atolwg, dy weision ddeg diwrnod, a rhoddant i ni ffa i'w bwyta, a dwfr i'w yfed.
13
Yna edrycher ger dy fron di ein gwedd ni, a gwedd y bechgyn sydd yn bwyta rhan o fwyd y brenin: ac fel y gwelych, gwna â'th weision.
14
Ac efe a wrandawodd arnynt yn y peth hyn, ac a'u profodd hwynt ddeg o ddyddiau.
15
Ac ymhen y deng niwrnod y gwelid eu gwedd hwynt yn decach, ac yn dewach o gnawd, na'r holl fechgyn oedd yn bwyta rhan o fwyd y brenin.
16
Felly Melsar a gymerodd ymaith ran eu bwyd hwynt, a'r gwin a yfent; ac a roddes iddynt ffa.
17
A'r bechgyn hynny ill pedwar, DUW a roddes iddynt wybodaeth a deall ym mhob dysg a doethineb: a Daniel a hyfforddiodd efe ym mhob gweledigaeth a breuddwydion.
18
Ac ymhen y dyddiau y dywedasai y brenin am eu dwyn hwynt i mewn, yna y pen‐ystafellydd a'u dug hwynt gerbron Nebuchodonosor.
19
A'r brenin a chwedleuodd â hwynt; ac ni chafwyd ohonynt oll un fel Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia: am hynny y safasant hwy gerbron y brenin.
20
Ac ym mhob rhyw ddoethineb a deall a'r a ofynnai y brenin iddynt, efe a'u cafodd hwynt yn ddeg gwell na'r holl ddewiniaid a'r astronomyddion oedd o fewn ei holl frenhiniaeth ef.
21
A bu Daniel hyd y flwyddyn gyntaf i'r brenin Cyrus.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12