bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Daniel 12
Daniel 12
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
1
Ac yn yr amser hwnnw y saif Michael y tywysog mawr, yr hwn sydd yn sefyll dros feibion dy bobl: yna y bydd amser blinder, y cyfryw ni bu er pan yw cenedl hyd yr amser hwnnw: ac yn yr amser hwnnw y gwaredir dy holl bobl, y rhai a gaffer yn ysgrifenedig yn y llyfr.
2
A llawer o'r rhai sydd yn cysgu yn llwch y ddaear a ddeffroant, rhai i fywyd tragwyddol, a rhai i warth a dirmyg tragwyddol.
3
A'r doethion a ddisgleiriant fel disgleirdeb y ffurfafen; a'r rhai a droant lawer i gyfiawnder, a fyddant fel y sêr byth yn dragywydd.
4
Tithau, Daniel, cae ar y geiriau, a selia y llyfr hyd amser y diwedd: llawer a gyniweirant, a gwybodaeth a amlheir.
5
Yna myfi Daniel a edrychais, ac wele ddau eraill yn sefyll, un o'r tu yma ar fin yr afon, ac un arall o'r tu arall ar fin yr afon.
6
Ac un a ddywedodd wrth yr hwn a wisgasid â lliain, yr hwn ydoedd ar ddyfroedd yr afon, Pa hyd fydd hyd ddiwedd y rhyfeddodau hyn?
7
Clywais hefyd y gŵr, a wisgasid â lliain, yr hwn ydoedd ar ddyfroedd yr afon, pan ddyrchafodd efe ei law ddeau a'i aswy tua'r nefoedd, ac y tyngodd i'r hwn sydd yn byw yn dragywydd, y bydd dros amser, amserau, a hanner: ac wedi darfod gwasgaru nerth y bobl sanctaidd, y gorffennir hyn oll.
8
Yna y clywais, ond ni ddeellais: eithr dywedais, O fy arglwydd, beth fydd diwedd y pethau hyn?
9
Ac efe a ddywedodd, Dos, Daniel: canys caewyd a seliwyd y geiriau hyd amser y diwedd.
10
Llawer a burir, ac a gennir, ac a brofir; eithr y rhai drygionus a wnânt ddrygioni: ac ni ddeall yr un o'r rhai drygionus; ond y rhai doethion a ddeallant.
11
Ac o'r amser y tynner ymaith y gwastadol aberth, ac y gosoder i fyny y ffieidd‐dra anrheithiol, y bydd mil dau cant a deg a phedwar ugain o ddyddiau.
12
Gwyn ei fyd a ddisgwylio, ac a ddêl hyd y mil tri chant a phymtheg ar hugain o ddyddiau.
13
Dos dithau hyd y diwedd: canys gorffwysi, a sefi yn dy ran yn niwedd y dyddiau.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12