bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Daniel 8
Daniel 8
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 9 →
1
Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Belsassar y brenin, yr ymddangosodd i mi weledigaeth, sef i myfi Daniel, wedi yr hon a ymddangosasai i mi ar y cyntaf.
2
Gwelais hefyd mewn gweledigaeth, (a bu pan welais, mai yn Susan y brenhinllys, yr hwn sydd o fewn talaith Elam, yr oeddwn i,) ie, gwelais mewn gweledigaeth, ac yr oeddwn i wrth afon Ulai.
3
Yna y cyfodais fy llygaid, ac a welais, ac wele ryw hwrdd yn sefyll wrth yr afon, a deugorn iddo; a'r ddau gorn oedd uchel, ac un yn uwch na'r llall; a'r uchaf a gyfodasai yn olaf.
4
Gwelwn yr hwrdd yn cornio tua'r gorllewin, tua'r gogledd, a thua'r deau, fel na safai un bwystfil o'i flaen ef; ac nid oedd a achubai o'i law ef; ond efe a wnaeth yn ôl ei ewyllys ei hun, ac a aeth yn fawr.
5
Ac fel yr oeddwn yn ystyried, wele hefyd fwch geifr yn dyfod o'r gorllewin, ar hyd wyneb yr holl ddaear, ac heb gyffwrdd â'r ddaear; ac i'r bwch yr oedd corn hynod rhwng ei lygaid.
6
Ac efe a ddaeth hyd at yr hwrdd deugorn a welswn i yn sefyll wrth yr afon, ac efe a redodd ato ef yn angerdd ei nerth.
7
Gwelais ef hefyd yn dyfod hyd at yr hwrdd, ac efe a fu chwerw wrtho, ac a drawodd yr hwrdd, ac a dorrodd ei ddau gorn ef, ac nid oedd nerth yn yr hwrdd i sefyll o'i flaen ef, eithr efe a'i bwriodd ef i lawr, ac a'i sathrodd ef; ac nid oedd a allai achub yr hwrdd o'i law ef.
8
Am hynny y bwch geifr a aeth yn fawr iawn; ac wedi ei gryfhau, torrodd y corn mawr: a chododd pedwar o rai hynod yn ei le ef, tua phedwar gwynt y nefoedd.
9
Ac o un ohonynt y daeth allan gorn bychan, ac a dyfodd yn rhagorol, tua'r deau, a thua'r dwyrain, a thua'r hyfryd wlad.
10
Aeth yn fawr hefyd hyd lu y nefoedd, a bwriodd i lawr rai o'r llu, ac o'r sêr, ac a'u sathrodd hwynt.
11
Ymfawrygodd hefyd hyd at dywysog y llu, a dygwyd ymaith yr offrwm gwastadol oddi arno ef, a bwriwyd ymaith le ei gysegr ef.
12
A rhoddwyd iddo lu yn erbyn yr offrwm beunyddiol oherwydd camwedd, ac efe a fwriodd y gwirionedd i lawr; felly y gwnaeth, ac y llwyddodd.
13
Yna y clywais ryw sant yn llefaru, a dywedodd rhyw sant arall wrth y rhyw sant hwnnw oedd yn llefaru, Pa hyd y bydd y weledigaeth am yr offrwm gwastadol, a chamwedd anrhaith i roddi y cysegr a'r llu yn sathrfa?
14
Ac efe a ddywedodd wrthyf, Hyd ddwy fil a thri chant o ddiwrnodiau: yna y purir y cysegr.
15
A phan welais i Daniel y weledigaeth, a cheisio ohonof y deall, yna wele, safodd ger fy mron megis rhith gŵr.
16
A chlywais lais dyn rhwng glannau Ulai, ac efe a lefodd ac a ddywedodd, Gabriel, gwna i hwn ddeall y weledigaeth.
17
Ac efe a ddaeth yn agos i'r lle y safwn; a phan ddaeth, mi a ddychrynais, ac a syrthiais ar fy wyneb: ac efe a ddywedodd wrthyf, Deall, fab dyn; oherwydd y weledigaeth fydd yn amser y diwedd.
18
A thra yr oedd efe yn llefaru wrthyf, syrthiais mewn trymgwsg i lawr ar fy wyneb: ac efe a gyffyrddodd â mi, ac a'm cyfododd yn fy sefyll.
19
Dywedodd hefyd, Wele fi yn hysbysu i ti yr hyn a fydd yn niwedd y dicter; canys ar yr amser gosodedig y bydd y diwedd.
20
Yr hwrdd deugorn a welaist, yw brenhinoedd Media a Phersia.
21
A'r bwch blewog yw brenin Groeg; a'r corn mawr, yr hwn sydd rhwng ei lygaid ef, dyna y brenin cyntaf.
22
Lle y torrwyd ef, ac y cyfododd pedwar yn ei le, pedair brenhiniaeth a gyfodant o'r un genedl, ond nid un nerth ag ef.
23
A thua diwedd eu brenhiniaeth hwynt, pan gyflawner y troseddwyr, y cyfyd brenin wyneb‐greulon, ac yn deall damhegion.
24
A'i nerth ef a gryfha, ond nid trwy ei nerth ei hun; ac efe a ddinistria yn rhyfedd, ac a lwydda, ac a wna, ac a ddinistria y cedyrn, a'r bobl sanctaidd.
25
A thrwy ei gyfrwystra y ffynna ganddo dwyllo; ac efe a ymfawryga yn ei galon, a thrwy heddwch y dinistria efe lawer: ac efe a saif yn erbyn tywysog y tywysogion; ond efe a ddryllir heb law.
26
A gweledigaeth yr hwyr a'r bore, yr hon a draethwyd, sydd wirionedd: selia dithau y weledigaeth, oherwydd dros ddyddiau lawer y bydd.
27
Minnau Daniel a euthum yn llesg, ac a fûm glaf ennyd o ddyddiau; yna y cyfodais, ac y gwneuthum orchwyl y brenin, ac a synnais oherwydd y weledigaeth, ond nid oedd neb yn ei deall.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12