bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Habakkuk 1
Habakkuk 1
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 2 →
1
Y baich a welodd y proffwyd Habacuc.
2
Pa hyd, ARGLWYDD, y gwaeddaf, ac nis gwrandewi! y bloeddiaf arnat rhag trais, ac nid achubi!
3
Paham y gwnei i mi weled anwiredd, ac y peri i mi edrych ar flinder? anrhaith a thrais sydd o'm blaen i; ac y mae a gyfyd ddadl ac ymryson.
4
Am hynny yr oedir cyfraith, ac nid â barn allan byth: am fod y drygionus yn amgylchu y cyfiawn; am hynny cam farn a â allan.
5
Gwelwch ymysg y cenhedloedd, ac edrychwch, rhyfeddwch yn aruthrol: canys gweithredaf weithred yn eich dyddiau, ni choeliwch er ei mynegi i chwi.
6
Canys wele fi yn codi y Caldeaid, cenedl chwerw a phrysur, yr hon a rodia ar hyd lled y tir, i feddiannu cyfanheddoedd nid yw eiddynt.
7
Y maent i'w hofni ac i'w harswydo: ohonynt eu hun y daw allan eu barn a'u rhagoriaeth.
8
A'u meirch sydd fuanach na'r llewpardiaid, a llymach ydynt na bleiddiau yr hwyr: eu marchogion hefyd a ymdaenant, a'u marchogion a ddeuant o bell; ehedant fel eryr yn prysuro at fwyd.
9
Hwy a ddeuant oll i dreisio; ar gyfer eu hwyneb y bydd gwynt y dwyrain, a hwy a gasglant gaethion fel y tywod.
10
A hwy a watwarant frenhinoedd, a thywysogion a fyddant watwargerdd iddynt: hwy a watwarant yr holl gestyll, ac a gasglant lwch, ac a'i goresgynnant.
11
Yna y newidia ei feddwl, ac yr â trosodd, ac a drosedda, gan ddiolch am ei rym yma i'w dduw ei hun.
12
Onid wyt ti er tragwyddoldeb, O ARGLWYDD fy NUW, fy Sanctaidd? ni byddwn feirw. O ARGLWYDD, ti a'u gosodaist hwy i farn, ac a'u sicrheaist, O DDUW, i gosbedigaeth.
13
Ydwyt lanach dy lygaid nag y gelli edrych ar ddrwg, ac ni elli edrych ar anwiredd: paham yr edrychi ar yr anffyddloniaid, ac y tewi pan lynco yr anwir un cyfiawnach nag ef ei hun?
14
Ac y gwnei ddynion fel pysgod y môr, fel yr ymlusgiaid heb lywydd arnynt?
15
Cyfodant hwynt oll â'r bach; casglant hwynt yn eu rhwyd, a chynullant hwynt yn eu ballegrwyd: am hynny hwy a lawenychant ac a ymddigrifant.
16
Am hynny yr aberthant i'w rhwyd, ac y llosgant arogl-darth i'w ballegrwyd: canys trwyddynt hwy y mae eu rhan yn dew, a'u bwyd yn fras.
17
A gânt hwy gan hynny dywallt eu rhwyd, ac nad arbedont ladd y cenhedloedd yn wastadol?
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3