bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Habakkuk 3
Habakkuk 3
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
1
Gweddi Habacuc y proffwyd, ar Sigionoth.
2
Clywais, O ARGLWYDD, dy air, ac ofnais: O ARGLWYDD, bywha dy waith yng nghanol y blynyddoedd, pâr wybod yng nghanol y blynyddoedd; yn dy lid cofia drugaredd.
3
DUW a ddaeth o Teman, a'r Sanctaidd o fynydd Paran. Sela. Ei ogoniant a dodd y nefoedd, a'r ddaear a lanwyd o'i fawl.
4
A'i lewyrch oedd fel goleuni: yr oedd cyrn iddo yn dyfod allan o'i law; ac yno yr oedd cuddiad ei gryfder.
5
Aeth yr haint o'i flaen ef, ac aeth marwor tanllyd allan wrth ei draed ef.
6
Safodd, a mesurodd y ddaear; edrychodd, a gwasgarodd y cenhedloedd: y mynyddoedd tragwyddol hefyd a ddrylliwyd, a'r bryniau oesol a grymasant: llwybrau tragwyddol sydd iddo.
7
Dan gystudd y gwelais wersyllau Cuwsan: crynodd llenni tir Midian.
8
A sorrodd yr ARGLWYDD wrth yr afonydd? ai wrth yr afonydd y mae dy ddig? ai wrth y môr y mae dy ddigofaint, gan i ti farchogaeth ar dy feirch, ac ar gerbydau dy iachawdwriaeth?
9
Llwyr noethwyd dy fwa, yn ôl llwon y llwythau, sef dy air di. Sela. Holltaist y ddaear ag afonydd.
10
Y mynyddoedd a'th welsant, ac a grynasant; y llifeiriant dwfr a aeth heibio; y dyfnder a wnaeth dwrf; cyfododd hefyd ei ddwylo yn uchel.
11
Yr haul a'r lleuad a safodd yn eu preswylfa; wrth oleuad dy saethau yr aethant, ac wrth lewyrch dy waywffon ddisglair.
12
Mewn llid y cerddaist y ddaear, a dyrnaist y cenhedloedd mewn dicter.
13
Aethost allan er iachawdwriaeth i'th bobl, er iachawdwriaeth ynghyd â'th eneiniog: torraist y pen allan o dŷ yr anwir, gan ddinoethi y sylfaen hyd y gwddf. Sela.
14
Trywenaist ben ei faestrefydd â'i ffyn ei hun; rhyferthwyasant i'm gwasgaru; ymlawenhasant, megis i fwyta y tlawd mewn dirgelwch.
15
Rhodiaist â'th feirch trwy y môr, trwy bentwr o ddyfroedd mawrion.
16
Pan glywais, fy mol a ddychrynodd; fy ngwefusau a grynasant wrth y llef: daeth pydredd i'm hesgyrn, ac yn fy lle y crynais, fel y gorffwyswn yn nydd trallod: pan ddêl efe i fyny at y bobl, efe a'u difetha hwynt â'i fyddinoedd.
17
Er i'r ffigysbren na flodeuo, ac na byddo ffrwyth ar y gwinwydd; gwaith yr olewydd a balla, a'r meysydd ni roddant fwyd; torrir ymaith y praidd o'r gorlan, ac ni bydd eidion yn eu beudai:
18
Eto mi a lawenychaf yn yr ARGLWYDD; byddaf hyfryd yn NUW fy iachawdwriaeth.
19
Yr ARGLWYDD DDUW yw fy nerth, a'm traed a wna efe fel traed ewigod; ac efe a wna i mi rodio ar fy uchel leoedd. I'r pencerdd ar fy offer tannau.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
All chapters:
1
2
3