bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Habakkuk 2
Habakkuk 2
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
1
Safaf ar fy nisgwylfa, ac ymsefydlaf ar y tŵr, a gwyliaf, i edrych beth a ddywed efe wrthyf, a pha beth a atebaf pan y'm cerydder.
2
A'r ARGLWYDD a atebodd ac a ddywedodd, Ysgrifenna y weledigaeth, a gwna hi yn eglur ar lechau, fel y rhedo yr hwn a'i darlleno.
3
Canys y weledigaeth sydd eto dros amser gosodedig, ond hi a ddywed o'r diwedd, ac ni thwylla: os erys, disgwyl amdani; canys gan ddyfod y daw, nid oeda.
4
Wele, yr hwn a ymchwydda, nid yw uniawn ei enaid ynddo: ond y cyfiawn a fydd byw trwy ei ffydd.
5
A hefyd gan ei fod yn troseddu trwy win, gŵr balch yw efe, ac heb aros gartref, yr hwn a helaetha ei feddwl fel uffern, ac y mae fel angau, ac nis digonir; ond efe a gasgl ato yr holl genhedloedd, ac a gynnull ato yr holl bobloedd.
6
Oni chyfyd y rhai hyn oll yn ei erbyn ddihareb, a gair du yn ei erbyn, a dywedyd, Gwae a helaetho y peth nid yw eiddo! pa hyd? a'r neb a lwytho arno ei hun y clai tew!
7
Oni chyfyd yn ddisymwth y rhai a'th frathant, ac oni ddeffry y rhai a'th gystuddiant, a thi a fyddi yn wasarn iddynt?
8
Am i ti ysbeilio cenhedloedd lawer, holl weddill y bobloedd a'th ysbeilia dithau: am waed dynion, ac am y trais ar y tir, ar y ddinas, ac ar oll a drigant ynddi.
9
Gwae a elwo elw drwg i'w dŷ, i osod ei nyth yn uchel, i ddianc o law y drwg!
10
Cymeraist gyngor gwarthus i'th dŷ, wrth ddistrywio pobloedd lawer; pechaist yn erbyn dy enaid.
11
Oherwydd y garreg a lefa o'r mur, a'r trawst a'i hetyb o'r gwaith coed.
12
Gwae a adeilado dref trwy waed, ac a gadarnhao ddinas mewn anwiredd!
13
Wele, onid oddi wrth ARGLWYDD y lluoedd y mae, bod i'r bobl ymflino yn y tân, ac i'r cenhedloedd ymddiffygio am wir wagedd?
14
Canys y ddaear a lenwir o wybodaeth gogoniant yr ARGLWYDD, fel y toa y dyfroedd y môr.
15
Gwae a roddo ddiod i'w gymydog: yr hwn ydwyt yn rhoddi iddo dy gostrel, ac yn ei feddwi hefyd, er cael gweled eu noethni hwynt!
16
Llanwyd di o warth yn lle gogoniant; yf dithau hefyd, a noether dy flaengroen: ymchwel cwpan deheulaw yr ARGLWYDD atat ti, a chwydiad gwarthus fydd ar dy ogoniant.
17
Canys trais Libanus a'th orchuddia, ac anrhaith yr anifeiliaid, yr hwn a'u dychrynodd hwynt, o achos gwaed dynion, a thrais y tir, y ddinas ac oll a drigant ynddi.
18
Pa les a wna i'r ddelw gerfiedig, ddarfod i'w lluniwr ei cherfio; i'r ddelw dawdd, ac athro celwydd, fod lluniwr ei waith yn ymddiried ynddo, i wneuthur eilunod mudion?
19
Gwae a ddywedo wrth bren, Deffro; wrth garreg fud, Cyfod, efe a rydd addysg: wele, gwisgwyd ef ag aur ac arian, a dim anadl nid oes o'i fewn.
20
Ond yr ARGLWYDD sydd yn ei deml sanctaidd: y ddaear oll, gostega di ger ei fron ef.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3