bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Hebrews 10
Hebrews 10
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 11 →
1
Oblegid y gyfraith, yr hon sydd ganddi gysgod daionus bethau i ddyfod, ac nid gwir ddelw y pethau, nis gall trwy'r aberthau hynny, y rhai y maent bob blwyddyn yn eu hoffrymu yn wastadol, byth berffeithio'r rhai a ddêl ati.
2
Oblegid yna hwy a beidiasent â'u hoffrymu, am na buasai gydwybod pechod mwy gan y rhai a addolasent, wedi eu glanhau unwaith.
3
Eithr yn yr aberthau hynny y mae atgoffa pechodau bob blwyddyn.
4
Canys amhosibl yw i waed teirw a geifr dynnu ymaith bechodau.
5
Oherwydd paham y mae efe, wrth ddyfod i'r byd, yn dywedyd, Aberth ac offrwm nis mynnaist, eithr corff a gymhwysaist i mi:
6
Offrymau poeth, a thros bechod, ni buost fodlon iddynt.
7
Yna y dywedais, Wele fi yn dyfod, (y mae yn ysgrifenedig yn nechrau y llyfr amdanaf,) i wneuthur dy ewyllys di, O Dduw.
8
Wedi iddo ddywedyd uchod, Aberth ac offrwm, ac offrymau poeth, a thros bechod, nis mynnaist, ac nid ymfodlonaist ynddynt; y rhai yn ôl y gyfraith a offrymir;
9
Yna y dywedodd, Wele fi yn dyfod i wneuthur dy ewyllys di, O Dduw. Y mae yn tynnu ymaith y cyntaf, fel y gosodai yr ail.
10
Trwy yr hwn ewyllys yr ydym ni wedi ein sancteiddio, trwy offrymiad corff Iesu Grist unwaith.
11
Ac y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn gwasanaethu, ac yn offrymu yn fynych yr un aberthau, y rhai ni allant fyth ddileu pechodau:
12
Eithr hwn, wedi offrymu un aberth dros bechodau, yn dragywydd a eisteddodd ar ddeheulaw Duw;
13
O hyn allan yn disgwyl hyd oni osoder ei elynion ef yn droedfainc i'w draed ef.
14
Canys ag un offrwm y perffeithiodd efe yn dragwyddol y rhai sydd wedi eu sancteiddio.
15
Ac y mae'r Ysbryd Glân hefyd yn tystiolaethu i ni: canys wedi iddo ddywedyd o'r blaen,
16
Dyma'r cyfamod yr hwn a amodaf i â hwynt ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd; Myfi a osodaf fy nghyfreithiau yn eu calonnau, ac a'u hysgrifennaf yn eu meddyliau;
17
A'u pechodau a'u hanwireddau ni chofiaf mwyach.
18
A lle y mae maddeuant am y rhai hyn, nid oes mwyach offrwm dros bechod.
19
Am hynny, frodyr, gan fod i ni ryddid i fyned i mewn i'r cysegr trwy waed Iesu,
20
Ar hyd ffordd newydd a bywiol, yr hon a gysegrodd efe i ni, trwy'r llen, sef ei gnawd ef;
21
A bod i ni Offeiriad mawr ar dŷ Dduw:
22
Nesawn â chalon gywir, mewn llawn hyder ffydd, wedi glanhau ein calonnau oddi wrth gydwybod ddrwg, a golchi ein corff â dwfr glân.
23
Daliwn gyffes ein gobaith yn ddi‐sigl; (canys ffyddlon yw'r hwn a addawodd;)
24
A chydystyriwn bawb ein gilydd, i ymannog i gariad a gweithredoedd da:
25
Heb esgeuluso ein cydgynulliad ein hunain, megis y mae arfer rhai; ond annog bawb ein gilydd: a hynny yn fwy, o gymaint â'ch bod yn gweled y dydd yn nesáu.
26
Canys os o'n gwirfodd y pechwn, ar ôl derbyn gwybodaeth y gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau wedi ei adael mwyach;
27
Eithr rhyw ddisgwyl ofnadwy am farnedigaeth, ac angerdd tân, yr hwn a ddifa'r gwrthwynebwyr.
28
Yr un a ddirmygai gyfraith Moses, a fyddai farw heb drugaredd, dan ddau neu dri o dystion:
29
Pa faint mwy cosbedigaeth, dybygwch chwi, y bernir haeddu o'r hwn a fathrodd Fab Duw, ac a farnodd yn aflan waed y cyfamod, trwy'r hwn y sancteiddiwyd ef, ac a ddifenwodd Ysbryd y gras?
30
Canys nyni a adwaenom y neb a ddywedodd, Myfi biau dial, myfi a dalaf, medd yr Arglwydd. A thrachefn, Yr Arglwydd a farna ei bobl.
31
Peth ofnadwy yw syrthio yn nwylo'r Duw byw.
32
Ond gelwch i'ch cof y dyddiau o'r blaen, yn y rhai, wedi eich goleuo, y dioddefasoch ymdrech mawr o helbulon:
33
Wedi eich gwneuthur weithiau yn wawd, trwy waradwyddiadau a chystuddiau; ac weithiau yn bod yn gyfranogion â'r rhai a drinid felly.
34
Canys chwi a gyd‐ddioddefasoch â'm rhwymau i hefyd, ac a gymerasoch eich ysbeilio am y pethau oedd gennych yn llawen; gan wybod fod gennych i chwi eich hunain olud gwell yn y nefoedd, ac un parhaus.
35
Am hynny na fwriwch ymaith eich hyder, yr hwn sydd iddo fawr wobr.
36
Canys rhaid i chwi wrth amynedd; fel, wedi i chwi wneuthur ewyllys Duw, y derbynioch yr addewid.
37
Oblegid ychydig bachigyn eto, a'r hwn sydd yn dyfod a ddaw, ac nid oeda.
38
A'r cyfiawn a fydd byw trwy ffydd: eithr o thyn neb yn ôl, nid yw fy enaid yn ymfodloni ynddo.
39
Eithr nid ydym ni o'r rhai sydd yn tynnu yn ôl i golledigaeth; namyn o ffydd, i gadwedigaeth yr enaid.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13