bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Hebrews 4
Hebrews 4
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 5 →
1
Ofnwn gan hynny, gan fod addewid wedi ei adael i ni i fyned i mewn i'w orffwysfa ef, rhag bod neb ohonoch yn debyg i fod yn ôl.
2
Canys i ninnau y pregethwyd yr efengyl, megis ag iddynt hwythau: eithr y gair a glybuwyd ni bu fuddiol iddynt hwy, am nad oedd wedi ei gyd‐dymheru â ffydd yn y rhai a'i clywsant.
3
Canys yr ydym ni, y rhai a gredasom, yn myned i mewn i'r orffwysfa, megis y dywedodd efe, Fel y tyngais yn fy llid, Os ânt i mewn i'm gorffwysfa i: er bod y gweithredoedd wedi eu gwneuthur er seiliad y byd.
4
Canys efe a ddywedodd mewn man am y seithfed dydd fel hyn; A gorffwysodd Duw y seithfed dydd oddi wrth ei holl weithredoedd.
5
Ac yma drachefn, Os ânt i mewn i'm gorffwysfa i.
6
Gan hynny, gan fod hyn wedi ei adael, fod rhai yn myned i mewn iddi, ac nad aeth y rhai y pregethwyd yn gyntaf iddynt i mewn, oherwydd anghrediniaeth;
7
Trachefn, y mae efe yn pennu rhyw ddiwrnod, gan ddywedyd yn Dafydd, Heddiw, ar ôl cymaint o amser; megis y dywedir, Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd ef, na chaledwch eich calonnau.
8
Canys pe dygasai Jesus hwynt i orffwysfa, ni soniasai efe ar ôl hynny am ddiwrnod arall.
9
Y mae gan hynny orffwysfa eto yn ôl i bobl Dduw.
10
Canys yr hwn a aeth i mewn i'w orffwysfa ef, hwnnw hefyd a orffwysodd oddi wrth ei weithredoedd ei hun, megis y gwnaeth Duw oddi wrth yr eiddo yntau.
11
Byddwn ddyfal gan hynny i fyned i mewn i'r orffwysfa honno, fel na syrthio neb yn ôl yr un siampl o anghrediniaeth.
12
Canys bywiol yw gair Duw, a nerthol, a llymach nag un cleddyf daufiniog, ac yn cyrhaeddyd trwodd hyd wahaniad yr enaid a'r ysbryd, a'r cymalau a'r mêr; ac yn barnu meddyliau a bwriadau'r galon.
13
Ac nid oes greadur anamlwg yn ei olwg ef: eithr pob peth sydd yn noeth ac yn agored i'w lygaid ef am yr hwn yr ydym yn sôn.
14
Gan fod wrth hynny i ni Archoffeiriad mawr, yr hwn a aeth i'r nefoedd, Iesu Mab Duw, glynwn yn ein proffes.
15
Canys nid oes i ni Archoffeiriad heb fedru cyd‐ddioddef gyda'n gwendid ni; ond wedi ei demtio ym mhob peth yr un ffunud â ninnau, eto heb bechod.
16
Am hynny awn yn hyderus at orseddfainc y gras, fel y derbyniom drugaredd, ac y caffom ras yn gymorth cyfamserol.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13