bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Hebrews 5
Hebrews 5
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 6 →
1
Canys pob archoffeiriad wedi ei gymryd o blith dynion, a osodir dros ddynion yn y pethau sydd tuag at Dduw, fel yr offrymo roddion ac aberthau dros bechodau:
2
Yr hwn a ddichon dosturio wrth y rhai sydd mewn anwybodaeth ac amryfusedd; am ei fod yntau hefyd wedi ei amgylchu â gwendid.
3
Ac o achos hyn y dylai, megis dros y bobl, felly hefyd drosto ei hun, offrymu dros bechodau.
4
Ac nid yw neb yn cymryd yr anrhydedd hwn iddo ei hun, ond yr hwn a alwyd gan Dduw, megis Aaron.
5
Felly Crist hefyd nis gogoneddodd ei hun i fod yn Archoffeiriad; ond yr hwn a ddywedodd wrtho, Tydi yw fy Mab; myfi heddiw a'th genhedlais di.
6
Megis y mae yn dywedyd mewn lle arall, Offeiriad wyt ti yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec.
7
Yr hwn yn nyddiau ei gnawd, gwedi iddo, trwy lefain cryf a dagrau, offrwm gweddïau ac erfyniau at yr hwn oedd abl i'w achub ef oddi wrth farwolaeth, a chael ei wrando yn yr hyn a ofnodd;
8
Er ei fod yn Fab, a ddysgodd ufudd‐dod trwy'r pethau a ddioddefodd:
9
Ac wedi ei berffeithio, efe a wnaethpwyd yn Awdur iachawdwriaeth dragwyddol i'r rhai oll a ufuddhant iddo;
10
Wedi ei gyfenwi gan Dduw yn Archoffeiriad yn ôl urdd Melchisedec.
11
Am yr hwn y mae i ni lawer i'w dywedyd, ac anodd eu traethu, o achos eich bod chwi yn hwyrdrwm eich clustiau.
12
Canys lle dylech fod yn athrawon o ran amser, y mae arnoch drachefn eisiau dysgu i chwi beth ydyw egwyddorion dechreuad ymadroddion Duw: ac yr ydych yn rhaid i chwi wrth laeth, ac nid bwyd cryf.
13
Canys pob un a'r sydd yn ymarfer â llaeth, sydd anghynefin â gair cyfiawnder; canys maban yw.
14
Eithr bwyd cryf a berthyn i'r rhai perffaith, y rhai oherwydd cynefindra y mae ganddynt synnwyr wedi ymarfer i ddosbarthu drwg a da.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13