bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
John 10
John 10
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 11 →
1
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn nid yw yn myned i mewn drwy'r drws i gorlan y defaid, eithr sydd yn dringo ffordd arall, lleidr ac ysbeiliwr yw.
2
Ond yr hwn sydd yn myned i mewn drwy'r drws, bugail y defaid ydyw.
3
I hwn y mae'r drysor yn agoryd, ac y mae'r defaid yn gwrando ar ei lais ef: ac y mae efe yn galw ei ddefaid ei hun erbyn eu henw, ac yn eu harwain hwy allan.
4
Ac wedi iddo yrru allan ei ddefaid ei hun, y mae efe yn myned o'u blaen hwy: a'r defaid sydd yn ei ganlyn ef, oblegid y maent yn adnabod ei lais ef.
5
Ond y dieithr nis canlynant, eithr ffoant oddi wrtho: oblegid nad adwaenant lais dieithriaid.
6
Y ddameg hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt: ond hwy ni wybuant pa bethau ydoedd y rhai yr oedd efe yn eu llefaru wrthynt.
7
Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrthynt drachefn, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Myfi yw drws y defaid.
8
Cynifer oll ag a ddaethant o'm blaen i, lladron ac ysbeilwyr ŷnt: eithr ni wrandawodd y defaid arnynt.
9
Myfi yw'r drws: os â neb i mewn trwof fi, efe a fydd cadwedig; ac efe a â i mewn ac allan, ac a gaiff borfa.
10
Nid yw lleidr yn dyfod ond i ladrata, ac i ladd, ac i ddistrywio: myfi a ddeuthum fel y caent fywyd, ac y caent ef yn helaethach.
11
Myfi yw'r bugail da. Y bugail da sydd yn rhoddi ei einioes dros y defaid.
12
Eithr y gwas cyflog, a'r hwn nid yw fugail, yr hwn nid eiddo y defaid, sydd yn gweled y blaidd yn dyfod, ac yn gadael y defaid, ac yn ffoi: a'r blaidd sydd yn eu hysglyfio hwy, ac yn tarfu'r defaid.
13
Y mae'r gwas cyflog yn ffoi, oblegid mai gwas cyflog yw, ac nid oes ofal arno am y defaid.
14
Myfi yw'r bugail da; ac a adwaen yr eiddof fi, ac a'm hadwaenir gan yr eiddof fi.
15
Fel yr edwyn y Tad fyfi, felly yr adwaen innau'r Tad: ac yr ydwyf yn rhoddi fy einioes dros y defaid.
16
A defaid eraill sydd gennyf, y rhai nid ŷnt o'r gorlan hon: y rhai hynny hefyd sydd raid i mi eu cyrchu, a'm llais i a wrandawant; a bydd un gorlan, ac un bugail.
17
Am hyn y mae'r Tad yn fy ngharu i, am fy mod i yn dodi fy einioes, fel y cymerwyf hi drachefn.
18
Nid oes neb yn ei dwyn oddi arnaf fi: ond myfi sydd yn ei dodi hi i lawr ohonof fy hun. Y mae gennyf feddiant i'w dodi hi i lawr, ac y mae gennyf feddiant i'w chymryd hi drachefn. Y gorchymyn hwn a dderbyniais i gan fy Nhad.
19
Yna y bu drachefn ymrafael ymysg yr Iddewon, am yr ymadroddion hyn.
20
A llawer ohonynt a ddywedasant, Y mae cythraul ganddo, ac y mae efe yn ynfydu: paham y gwrandewch chwi arno ef?
21
Eraill a ddywedasant, Nid yw'r rhai hyn eiriau un â chythraul ynddo. A all cythraul agoryd llygaid y deillion?
22
Ac yr oedd y gysegr‐ŵyl yn Jerwsalem, a'r gaeaf oedd hi.
23
Ac yr oedd yr Iesu yn rhodio yn y deml, ym mhorth Solomon.
24
Am hynny y daeth yr Iddewon yn ei gylch ef, ac a ddywedasant wrtho, Pa hyd yr wyt yn peri i ni amau? os tydi yw'r Crist, dywed i ni yn eglur.
25
Yr Iesu a atebodd iddynt, Mi a ddywedais i chwi, ac nid ydych yn credu. Y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur yn enw fy Nhad, y mae y rhai hynny yn tystiolaethu amdanaf fi.
26
Ond chwi nid ydych yn credu: canys nid ydych chwi o'm defaid i, fel y dywedais i chwi.
27
Y mae fy nefaid i yn gwrando fy llais i; a mi a'u hadwaen hwynt, a hwy a'm canlynant i:
28
A minnau ydwyf yn rhoddi iddynt fywyd tragwyddol; ac ni chyfrgollant byth, ac ni ddwg neb hwynt allan o'm llaw i.
29
Fy Nhad i, yr hwn a'u rhoddes i mi, sydd fwy na phawb: ac nis gall neb eu dwyn hwynt allan o law fy Nhad i.
30
Myfi a'r Tad un ydym.
31
Am hynny y cododd yr Iddewon gerrig drachefn i'w labyddio ef.
32
Yr Iesu a atebodd iddynt, Llawer o weithredoedd da a ddangosais i chwi oddi wrth fy Nhad: am ba un o'r gweithredoedd hynny yr ydych yn fy llabyddio i?
33
Yr Iddewon a atebasant iddo, gan ddywedyd, Nid am weithred dda yr ydym yn dy labyddio, ond am gabledd, ac am dy fod di, a thithau yn ddyn, yn dy wneuthur dy hun yn Dduw.
34
Yr Iesu a atebodd iddynt, Onid yw yn ysgrifenedig yn eich cyfraith chwi, Mi a ddywedais, Duwiau ydych?
35
Os galwodd efe hwy yn dduwiau, at y rhai y daeth gair Duw, (a'r ysgrythur nis gellir ei thorri;)
36
A ddywedwch chwi am yr hwn a sancteiddiodd y Tad, ac a'i hanfonodd i'r byd, Yr wyt ti yn cablu; am i mi ddywedyd, Mab Duw ydwyf?
37
Onid wyf fi yn gwneuthur gweithredoedd fy Nhad, na chredwch i mi:
38
Ond os ydwyf yn eu gwneuthur, er nad ydych yn credu i mi, credwch y gweithredoedd; fel y gwybyddoch ac y credoch, fod y Tad ynof fi, a minnau ynddo yntau.
39
Am hynny y ceisiasant drachefn ei ddal ef: ac efe a ddihangodd allan o'u dwylo hwynt.
40
Ac efe a aeth ymaith drachefn dros yr Iorddonen, i'r man lle y buasai Ioan ar y cyntaf yn bedyddio; ac a arhosodd yno.
41
A llawer a ddaethant ato ef, ac a ddywedasant, Ioan yn wir ni wnaeth un arwydd: ond yr holl bethau a'r a ddywedodd Ioan am hwn, oedd wir.
42
A llawer yno a gredasant ynddo.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21