bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
John 8
John 8
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 9 →
1
A'r Iesu a aeth i fynydd yr Olewydd:
2
Ac a ddaeth drachefn y bore i'r deml; a'r holl bobl a ddaeth ato ef: yntau a eisteddodd, ac a'u dysgodd hwynt.
3
A'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid a ddygasant ato ef wraig, yr hon a ddaliesid mewn godineb; ac wedi ei gosod hi yn y canol,
4
Hwy a ddywedasant wrtho, Athro, y wraig hon a ddaliwyd ar y weithred yn godinebu.
5
A Moses yn y gyfraith a orchmynnodd i ni labyddio'r cyfryw: beth gan hynny yr wyt ti yn ei ddywedyd?
6
A hyn a ddywedasant hwy, gan ei demtio ef, fel y gallent ei gyhuddo ef. Eithr yr Iesu, wedi ymgrymu tua'r llawr, a ysgrifennodd â'i fys ar y ddaear, heb gymryd arno eu clywed.
7
Ond fel yr oeddynt hwy yn parhau yn gofyn iddo, efe a ymunionodd, ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd ddibechod ohonoch, tafled yn gyntaf garreg ati hi.
8
Ac wedi iddo eilwaith ymgrymu tua'r llawr, efe a ysgrifennodd ar y ddaear.
9
Hwythau, pan glywsant hyn, wedi hefyd eu hargyhoeddi gan eu cydwybod, a aethant allan o un i un, gan ddechrau o'r hynaf hyd yr olaf: a gadawyd yr Iesu yn unig, a'r wraig yn sefyll yn y canol.
10
A'r Iesu wedi ymunioni, ac heb weled neb ond y wraig, a ddywedodd wrthi, Ha wraig, pa le y mae dy gyhuddwyr di? oni chondemniodd neb di?
11
Hithau a ddywedodd, Naddo neb, Arglwydd. A dywedodd yr Iesu wrthi, Nid wyf finnau yn dy gondemnio di: dos, ac na phecha mwyach.
12
Yna y llefarodd yr Iesu wrthynt drachefn, gan ddywedyd, Goleuni'r byd ydwyf fi: yr hwn a'm dilyno i, ni rodia mewn tywyllwch, eithr efe a gaiff oleuni'r bywyd.
13
Am hynny y Phariseaid a ddywedasant wrtho, Tydi sydd yn tystiolaethu amdanat dy hun; nid yw dy dystiolaeth di wir.
14
Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwy, Er fy mod i yn tystiolaethu amdanaf fy hun, y mae fy nhystiolaeth i yn wir: oblegid mi a wn o ba le y deuthum, ac i ba le yr ydwyf yn myned; chwithau nis gwyddoch o ba le yr wyf fi yn dyfod, nac i ba le yr wyf fi yn myned.
15
Chwychwi sydd yn barnu yn ôl y cnawd; nid ydwyf fi yn barnu neb.
16
Ac eto os wyf fi yn barnu, y mae fy marn i yn gywir: oblegid nid wyf fi yn unig, ond myfi a'r Tad yr hwn a'm hanfonodd i.
17
Y mae hefyd yn ysgrifenedig yn eich cyfraith chwi, Mai gwir yw tystiolaeth dau ddyn.
18
Myfi yw'r hwn sydd yn tystiolaethu amdanaf fy hun; ac y mae'r Tad, yr hwn a'm hanfonodd i, yn tystiolaethu amdanaf fi.
19
Yna y dywedasant wrtho, Pa le y mae dy Dad di? Yr Iesu a atebodd, Nid adwaenoch na myfi, na'm Tad: ped adnabuasech fi, chwi a adnabuasech fy Nhad i hefyd.
20
Y geiriau hyn a lefarodd yr Iesu yn y trysordy, wrth athrawiaethu yn y deml: ac ni ddaliodd neb ef, am na ddaethai ei awr ef eto.
21
Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy drachefn, Yr wyf fi yn myned ymaith, a chwi a'm ceisiwch i, ac a fyddwch feirw yn eich pechod: lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod.
22
Am hynny y dywedodd yr Iddewon, A ladd efe ei hun? gan ei fod yn dywedyd, Lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod.
23
Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Chwychwi sydd oddi isod; minnau sydd oddi uchod: chwychwi sydd o'r byd hwn; minnau nid wyf o'r byd hwn.
24
Am hynny y dywedais wrthych, y byddwch chwi feirw yn eich pechodau: oblegid oni chredwch chwi mai myfi yw efe, chwi a fyddwch feirw yn eich pechodau.
25
Yna y dywedasant wrtho, Pwy wyt ti? A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd hefyd wrthych o'r dechreuad.
26
Y mae gennyf fi lawer o bethau i'w dywedyd ac i'w barnu amdanoch chwi: eithr cywir yw'r hwn a'm hanfonodd i; a'r pethau a glywais i ganddo, y rhai hynny yr ydwyf fi yn eu dywedyd i'r byd.
27
Ni wyddent hwy mai am y Tad yr oedd efe yn dywedyd wrthynt hwy.
28
Am hynny y dywedodd yr Iesu wrthynt, Pan ddyrchafoch chwi Fab y dyn, yna y cewch wybod mai myfi yw efe, ac nad wyf fi yn gwneuthur dim ohonof fy hun; ond megis y dysgodd fy Nhad fi, yr wyf yn llefaru y pethau hyn.
29
A'r hwn a'm hanfonodd i sydd gyda myfi: ni adawodd y Tad fi yn unig; oblegid yr wyf fi yn gwneuthur bob amser y pethau sydd fodlon ganddo ef.
30
Fel yr oedd efe yn llefaru'r pethau hyn, llawer a gredasant ynddo ef.
31
Yna y dywedodd yr Iesu wrth yr Iddewon a gredasant ynddo, Os arhoswch chwi yn fy ngair i, disgyblion i mi ydych yn wir;
32
A chwi a gewch wybod y gwirionedd, a'r gwirionedd a'ch rhyddha chwi.
33
Hwythau a atebasant iddo, Had Abraham ydym ni, ac ni wasanaethasom ni neb erioed: pa fodd yr wyt ti yn dywedyd, Chwi a wneir yn rhyddion?
34
Yr Iesu a atebodd iddynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pwy bynnag sydd yn gwneuthur pechod, y mae efe yn was i bechod.
35
Ac nid yw'r gwas yn aros yn tŷ byth: y Mab sydd yn aros byth.
36
Os y Mab gan hynny a'ch rhyddha chwi, rhyddion fyddwch yn wir.
37
Mi a wn mai had Abraham ydych chwi: ond yr ydych chwi yn ceisio fy lladd i, am nad yw fy ngair i yn genni ynoch chwi.
38
Yr wyf fi yn llefaru yr hyn a welais gyda'm Tad i: a chwithau sydd yn gwneuthur yr hyn a welsoch gyda'ch tad chwithau.
39
Hwythau a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Ein tad ni yw Abraham. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Pe plant Abraham fyddech, gweithredoedd Abraham a wnaech.
40
Eithr yn awr yr ydych chwi yn ceisio fy lladd i, dyn a ddywedodd i chwi y gwirionedd, yr hwn a glywais i gan Dduw: hyn ni wnaeth Abraham.
41
Yr ydych chwi yn gwneuthur gweithredoedd eich tad chwi. Am hynny y dywedasant wrtho, Nid trwy buteindra y cenhedlwyd ni: un Tad sydd gennym ni, sef Duw.
42
Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy, Pe Duw fyddai eich Tad, chwi a'm carech i: canys oddi wrth Dduw y deilliais, ac y deuthum i; oblegid nid ohonof fy hun y deuthum i, ond efe a'm hanfonodd i.
43
Paham nad ydych yn deall fy lleferydd i? am na ellwch wrando fy ymadrodd i.
44
O'ch tad diafol yr ydych chwi, a thrachwantau eich tad a fynnwch chwi eu gwneuthur. Lleiddiad dyn oedd efe o'r dechreuad; ac ni safodd yn y gwirionedd, oblegid nid oes gwirionedd ynddo ef. Pan yw yn dywedyd celwydd, o'r eiddo ei hun y mae yn dywedyd: canys y mae yn gelwyddog, ac yn dad iddo.
45
Ac am fy mod i yn dywedyd y gwirionedd, nid ydych yn credu i mi.
46
Pwy ohonoch a'm hargyhoedda i o bechod? Ac od wyf fi yn dywedyd y gwir, paham nad ydych yn credu i mi?
47
Y mae'r hwn sydd o Dduw, yn gwrando geiriau Duw: am hynny nid ydych chwi yn eu gwrando, am nad ydych o Dduw.
48
Yna yr atebodd yr Iddewon, ac y dywedasant wrtho ef, Onid da yr ydym ni yn dywedyd, mai Samaritan wyt ti, a bod gennyt gythraul?
49
Yr Iesu a atebodd, Nid oes gennyf gythraul; ond yr wyf fi yn anrhydeddu fy Nhad, ac yr ydych chwithau yn fy nianrhydeddu innau.
50
Ac nid wyf fi yn ceisio fy ngogoniant fy hun: y mae a'i cais, ac a farn.
51
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Os ceidw neb fy ymadrodd i, ni wêl efe farwolaeth yn dragywydd.
52
Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho, Yr awron y gwyddom fod gennyt gythraul. Bu Abraham farw, a'r proffwydi; ac meddi di, Os ceidw neb fy ymadrodd i, nid archwaetha efe farwolaeth yn dragywydd.
53
Ai mwy wyt ti nag Abraham ein tad ni, yr hwn a fu farw? a'r proffwydi a fuant feirw: pwy yr wyt ti yn dy wneuthur dy hun?
54
Yr Iesu a atebodd, Os wyf fi yn fy ngogoneddu fy hun, fy ngogoniant i nid yw ddim: fy Nhad yw'r hwn sydd yn fy ngogoneddu i, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd, mai eich Duw chwi yw.
55
Ond nid adnabuoch chwi ef: eithr myfi a'i hadwaen ef. Ac os dywedaf nad adwaen ef, myfi a fyddaf debyg i chwi, yn gelwyddog: ond mi a'i hadwaen ef, ac yr wyf yn cadw ei ymadrodd ef.
56
Gorfoledd oedd gan eich tad Abraham weled fy nydd i: ac efe a'i gwelodd hefyd, ac a lawenychodd.
57
Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho, Nid wyt ti ddengmlwydd a deugain eto, ac a welaist ti Abraham?
58
Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Cyn bod Abraham, yr wyf fi.
59
Yna hwy a godasant gerrig i'w taflu ato ef. A'r Iesu a ymguddiodd, ac a aeth allan o'r deml, gan fyned trwy eu canol hwynt: ac felly yr aeth efe heibio.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21