bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
John 4
John 4
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 5 →
1
Pan wybu'r Arglwydd gan hynny glywed o'r Phariseaid fod yr Iesu yn gwneuthur ac yn bedyddio mwy o ddisgyblion nag Ioan,
2
(Er na fedyddiasai yr Iesu ei hun, eithr ei ddisgyblion ef,)
3
Efe a adawodd Jwdea, ac a aeth drachefn i Galilea.
4
Ac yr oedd yn rhaid iddo fyned trwy Samaria.
5
Efe a ddaeth gan hynny i ddinas yn Samaria a elwid Sichar, gerllaw y rhandir a roddasai Jacob i'w fab Joseff:
6
Ac yno yr oedd ffynnon Jacob. Yr Iesu gan hynny yn ddiffygiol gan y daith, a eisteddodd felly ar y ffynnon: ac ynghylch y chweched awr ydoedd hi.
7
Daeth gwraig o Samaria i dynnu dwfr: a'r Iesu a ddywedodd wrthi, Dyro i mi i yfed.
8
(Canys ei ddisgyblion ef a aethent i'r ddinas i brynu bwyd.)
9
Yna y wraig o Samaria a ddywedodd wrtho ef, Pa fodd yr ydwyt ti, a thi yn Iddew, yn gofyn diod gennyf fi, a myfi yn wraig o Samaria? oblegid nid yw'r Iddewon yn ymgyfeillach â'r Samariaid.
10
Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Ped adwaenit ti ddawn Duw, a phwy yw'r hwn sydd yn dywedyd wrthyt, Dyro i mi i yfed; tydi a ofynasit iddo ef, ac efe a roddasai i ti ddwfr bywiol.
11
Y wraig a ddywedodd wrtho, Arglwydd, nid oes gennyt ti ddim i godi dwfr, a'r pydew sydd ddwfn: o ba le gan hynny y mae gennyt ti y dwfr bywiol hwnnw?
12
Ai mwy wyt ti na'n tad Jacob, yr hwn a roddodd i ni'r pydew, ac efe ei hun a yfodd ohono, a'i feibion, a'i anifeiliaid?
13
Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Pwy bynnag sydd yn yfed o'r dwfr hwn, efe a sycheda drachefn:
14
Ond pwy bynnag a yfo o'r dwfr a roddwyf fi iddo, ni sycheda yn dragywydd; eithr y dwfr a roddwyf iddo, a fydd ynddo yn ffynnon o ddwfr yn tarddu i fywyd tragwyddol.
15
Y wraig a ddywedodd wrtho, Arglwydd, dyro i mi y dwfr hwn, fel na sychedwyf, ac na ddelwyf yma i godi dwfr.
16
Iesu a ddywedodd wrthi, Dos, galw dy ŵr, a thyred yma.
17
Y wraig a atebodd ac a ddywedodd, Nid oes gennyf ŵr. Iesu a ddywedodd wrthi, Da y dywedaist, Nid oes gennyf ŵr:
18
Canys pump o wŷr a fu i ti; a'r hwn sydd gennyt yr awron, nid yw ŵr i ti: hyn a ddywedaist yn wir.
19
Y wraig a ddywedodd wrtho ef, Arglwydd, mi a welaf mai proffwyd wyt ti.
20
Ein tadau a addolasant yn y mynydd hwn; ac yr ydych chwi yn dywedyd mai yn Jerwsalem y mae'r man lle y mae yn rhaid addoli.
21
Iesu a ddywedodd wrthi hi, O wraig, cred fi, y mae'r awr yn dyfod, pryd nad addoloch y Tad, nac yn y mynydd hwn, nac yn Jerwsalem.
22
Chwychwi ydych yn addoli'r peth ni wyddoch: ninnau ydym yn addoli'r peth a wyddom: canys iachawdwriaeth sydd o'r Iddewon.
23
Ond dyfod y mae'r awr, ac yn awr y mae hi, pan addolo'r gwir addolwyr y Tad mewn ysbryd a gwirionedd: canys y cyfryw y mae'r Tad yn eu ceisio i'w addoli ef.
24
Ysbryd yw Duw; a rhaid i'r rhai a'i haddolant ef, addoli mewn ysbryd a gwirionedd.
25
Y wraig a ddywedodd wrtho, Mi a wn fod y Meseias yn dyfod, yr hwn a elwir Crist: pan ddelo hwnnw, efe a fynega i ni bob peth.
26
Iesu a ddywedodd wrthi hi, Myfi, yr hwn wyf yn ymddiddan â thi, yw hwnnw.
27
Ac ar hyn y daeth ei ddisgyblion; a bu ryfedd ganddynt ei fod ef yn ymddiddan â gwraig: er hynny ni ddywedodd neb, Beth a geisi? neu, Paham yr ydwyt yn ymddiddan â hi?
28
Yna y wraig a adawodd ei dyfrlestr, ac a aeth i'r ddinas, ac a ddywedodd wrth y dynion,
29
Deuwch, gwelwch ddyn yr hwn a ddywedodd i mi yr hyn oll a wneuthum: onid hwn yw'r Crist?
30
Yna hwy a aethant allan o'r ddinas, ac a ddaethant ato ef.
31
Yn y cyfamser y disgyblion a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Rabbi, bwyta.
32
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae gennyf fi fwyd i'w fwyta yr hwn ni wyddoch chwi oddi wrtho.
33
Am hynny y disgyblion a ddywedasant wrth ei gilydd, A ddug neb iddo ddim i'w fwyta?
34
Iesu a ddywedodd wrthynt, Fy mwyd i yw gwneuthur ewyllys yr hwn a'm hanfonodd, a gorffen ei waith ef.
35
Onid ydych chwi yn dywedyd, Y mae eto bedwar mis, ac yna y daw'r cynhaeaf? Wele, yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych, Dyrchefwch eich llygaid, ac edrychwch ar y meysydd; canys gwynion ydynt eisoes i'r cynhaeaf.
36
A'r hwn sydd yn medi, sydd yn derbyn cyflog, ac yn casglu ffrwyth i fywyd tragwyddol: fel y byddo i'r hwn sydd yn hau, ac i'r hwn sydd yn medi, lawenychu ynghyd.
37
Canys yn hyn y mae'r gair yn wir, Mai arall yw'r hwn sydd yn hau, ac arall yr hwn sydd yn medi.
38
Myfi a'ch anfonais chwi i fedi yr hyn ni lafuriasoch: eraill a lafuriasant, a chwithau a aethoch i mewn i'w llafur hwynt.
39
A llawer o'r Samariaid o'r ddinas honno a gredasant ynddo, oherwydd gair y wraig, yr hon oedd yn tystiolaethu, Efe a ddywedodd i mi yr hyn oll a wneuthum.
40
Am hynny pan ddaeth y Samariaid ato ef, hwy a atolygasant iddo aros gyda hwynt. Ac efe a arhosodd yno ddeuddydd.
41
A mwy o lawer a gredasant ynddo ef oblegid ei air ei hun.
42
A hwy a ddywedasant wrth y wraig, Nid ydym ni weithian yn credu oblegid dy ymadrodd di: canys ni a'i clywsom ef ein hunain, ac a wyddom mai hwn yn ddiau yw'r Crist, Iachawdwr y byd.
43
Ac ymhen y ddeuddydd efe a aeth ymaith oddi yno, ac a aeth i Galilea.
44
Canys yr Iesu ei hun a dystiolaethodd, nad ydyw proffwyd yn cael anrhydedd yn ei wlad ei hun.
45
Yna pan ddaeth efe i Galilea, y Galileaid a'i derbyniasant ef, wedi iddynt weled yr holl bethau a wnaeth efe yn Jerwsalem ar yr ŵyl: canys hwythau a ddaethant i'r ŵyl.
46
Felly yr Iesu a ddaeth drachefn i Gana yng Ngalilea, lle y gwnaeth efe y dwfr yn win. Ac yr oedd rhyw bendefig, yr hwn yr oedd ei fab yn glaf yng Nghapernaum.
47
Pan glybu hwn ddyfod o'r Iesu o Jwdea i Galilea, efe a aeth ato ef, ac a atolygodd iddo ddyfod i waered, a iacháu ei fab ef: canys yr oedd efe ymron marw.
48
Yna Iesu a ddywedodd wrtho ef, Oni welwch chwi arwyddion a rhyfeddodau, ni chredwch.
49
Y pendefig a ddywedodd wrtho ef, O Arglwydd, tyred i waered cyn marw fy machgen.
50
Iesu a ddywedodd wrtho ef, Dos ymaith; y mae dy fab yn fyw. A'r gŵr a gredodd y gair a ddywedasai Iesu wrtho, ac efe a aeth ymaith.
51
Ac fel yr oedd efe yr awron yn myned i waered, ei weision a gyfarfuant ag ef, ac a fynegasant, gan ddywedyd, Y mae dy fachgen yn fyw.
52
Yna efe a ofynnodd iddynt yr awr y gwellhasai arno. A hwy a ddywedasant wrtho, Doe, y seithfed awr, y gadawodd y cryd ef.
53
Yna y gwybu'r tad mai'r awr honno oedd, yn yr hon y dywedasai Iesu wrtho ef, Y mae dy fab yn fyw. Ac efe a gredodd, a'i holl dŷ.
54
Yr ail arwydd yma drachefn a wnaeth yr Iesu, wedi dyfod o Jwdea i Galilea.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21