bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Lamentations 3
Lamentations 3
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 4 →
1
Myfi yw y gŵr a welodd flinder gan wialen ei ddigofaint ef.
2
I dywyllwch, ac nid i oleuni, yr arweiniodd ac y tywysodd efe fi.
3
Yn fy erbyn i yn ddiau y trodd efe, ac y mae efe yn troi ei law ar hyd y dydd.
4
Efe a wnaeth fy nghnawd a'm croen yn hen; efe a ddrylliodd fy esgyrn.
5
Efe a adeiladodd i'm herbyn, ac a'm hamgylchodd â bustl ac â blinder.
6
Efe a'm gosododd mewn tywyll leoedd, fel y rhai sydd wedi marw er ys talm.
7
Efe a gaeodd o'm hamgylch, fel nad elwyf allan: efe a wnaeth fy llyffethair i yn drom.
8
Pan lefwyf, a phan floeddiwyf, efe a gae allan fy ngweddi.
9
Efe a gaeodd fy ffyrdd â cherrig nadd; efe a wyrodd fy llwybrau.
10
Yr oedd efe i mi fel arth yn cynllwyn, neu lew mewn llochesau.
11
Efe a wyrodd fy ffyrdd, ac a'm drylliodd; yn anrheithiedig y gwnaeth fi.
12
Efe a anelodd ei fwa, ac a'm gosododd fel nod i saeth.
13
Efe a wnaeth i saethau ei gawell fyned i'm harennau.
14
Gwatwargerdd oeddwn i'm holl bobl, a'u cân ar hyd y dydd.
15
Efe a'm llanwodd â chwerwder; efe a'm meddwodd i â'r wermod.
16
Efe a dorrodd fy nannedd â cherrig, ac a'm trybaeddodd yn y llwch.
17
A phellheaist fy enaid oddi wrth heddwch; anghofiais ddaioni.
18
A mi a ddywedais, Darfu am fy nerth a'm gobaith oddi wrth yr ARGLWYDD.
19
Cofia fy mlinder a'm gofid, y wermod a'r bustl.
20
Fy enaid gan gofio a gofia, ac a ddarostyngwyd ynof fi.
21
Hyn yr ydwyf yn ei atgofio; am hynny y gobeithiaf.
22
Trugareddau yr ARGLWYDD yw na ddarfu amdanom ni: oherwydd ni phalla ei dosturiaethau ef.
23
Bob bore y deuant o newydd: mawr yw dy ffyddlondeb.
24
Yr ARGLWYDD yw fy rhan i, medd fy enaid; am hynny y gobeithiaf ynddo.
25
Daionus yw yr ARGLWYDD i'r rhai a ddisgwyliant wrtho, ac i'r enaid a'i ceisio.
26
Da yw gobeithio a disgwyl yn ddistaw am iachawdwriaeth yr ARGLWYDD.
27
Da yw i ŵr ddwyn yr iau yn ei ieuenctid.
28
Efe a eistedd ei hunan, ac a dau â sôn; am iddo ei dwyn hi arno.
29
Efe a ddyry ei enau yn y llwch, i edrych a oes obaith.
30
Efe a ddyry ei gern i'r hwn a'i trawo: efe a lenwir â gwaradwydd.
31
Oblegid nid yn dragywydd y gwrthyd yr ARGLWYDD:
32
Ond er iddo gystuddio, eto efe a dosturia, yn ôl amlder ei drugareddau.
33
Canys nid o'i fodd y blina efe, nac y cystuddia blant dynion.
34
I fathru holl garcharorion y ddaear dan ei draed,
35
I wyro barn gŵr o flaen wyneb y Goruchaf,
36
Nid yw yr ARGLWYDD yn gweled yn dda wneuthur cam â gŵr yn ei fater.
37
Pwy a ddywed y bydd dim, heb i'r ARGLWYDD ei orchymyn?
38
Oni ddaw o enau y Goruchaf ddrwg a da?
39
Paham y grwgnach dyn byw, gŵr am gosbedigaeth ei bechod?
40
Ceisiwn a chwiliwn ein ffyrdd, a dychwelwn at yr ARGLWYDD.
41
Dyrchafwn ein calonnau a'n dwylo at DDUW yn y nefoedd.
42
Nyni a wnaethom gamwedd, ac a fuom anufudd; tithau nid arbedaist.
43
Gorchuddiaist ni â soriant, ac erlidiaist ni: lleddaist, nid arbedaist.
44
Ti a'th guddiaist dy hun â chwmwl, fel na ddeuai ein gweddi trwodd.
45
Ti a'n gwnaethost yn sorod ac yn ysgubion yng nghanol y bobl.
46
Ein holl elynion a ledasant eu safnau yn ein herbyn.
47
Dychryn a magl a ddaeth arnom, anrhaith a dinistr.
48
Fy llygad a ddiferodd ffrydiau o ddwfr, oherwydd dinistr merch fy mhobl.
49
Fy llygad a ddiferodd, ac ni pheidiodd, am nad oes gorffwystra;
50
Hyd oni edrycho, ac oni ystyrio yr ARGLWYDD o'r nefoedd.
51
Y mae fy llygad yn blino fy enaid, oherwydd holl ferched fy ninas.
52
Fy ngelynion gan hela a'm heliasant yn ddiachos, fel aderyn.
53
Torasant ymaith fy einioes yn y pwll, a bwriasant gerrig arnaf.
54
Y dyfroedd a lifasant dros fy mhen: dywedais, Torrwyd fi ymaith.
55
Gelwais ar dy enw di, O ARGLWYDD, o'r pwll isaf.
56
Ti a glywaist fy llef: na chudd dy glust rhag fy uchenaid a'm gwaedd.
57
Ti a ddaethost yn nes y dydd y gelwais arnat: dywedaist, Nac ofna.
58
Ti, O ARGLWYDD, a ddadleuaist gyda'm henaid: gwaredaist fy einioes.
59
Ti, O ARGLWYDD, a welaist fy ngham: barn di fy marn i.
60
Ti a welaist eu holl ddial hwynt, a'u holl amcanion i'm herbyn i.
61
Clywaist eu gwaradwydd, O ARGLWYDD, a'u holl fwriadau i'm herbyn;
62
Gwefusau y rhai a godant i'm herbyn, a'u myfyrdod i'm herbyn ar hyd y dydd.
63
Edrych ar eu heisteddiad a'u cyfodiad; myfi yw eu cân hwynt.
64
Tâl y pwyth iddynt, O ARGLWYDD, yn ôl gweithred eu dwylo.
65
Dod iddynt ofid calon, dy felltith iddynt.
66
Erlid hwynt â digofaint, a difetha hwy oddi tan nefoedd yr ARGLWYDD.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5