bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Lamentations 4
Lamentations 4
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 5 →
1
Pa fodd y tywyllodd yr aur! y newidiodd yr aur coeth da! taflwyd cerrig y cysegr ym mhen pob heol.
2
Gwerthfawr feibion Seion, a chystal ag aur pur, pa fodd y cyfrifwyd hwynt fel ystenau pridd, gwaith dwylo'r crochenydd!
3
Y dreigiau a dynnant allan eu bronnau, a roddant sugn i'w cenawon: merch fy mhobl a aeth yn greulon, fel yr estrysiaid yn yr anialwch.
4
Tafod y plentyn sugno sydd yn glynu wrth daflod ei enau gan syched: y plant a ofynnant fara, ond nid oedd a dorrai iddynt.
5
Y rhai a ymborthent yn foethus, a ddifethwyd yn yr heolydd: y rhai a feithrinwyd mewn ysgarlad, a gofleidiant y tomennydd.
6
Canys mwy yw anwiredd merch fy mhobl na phechod Sodom, yr hon a ddinistriwyd megis yn ddisymwth, ni safodd llaw arni.
7
Purach oedd ei Nasareaid hi na'r eira, gwynnach oeddynt na'r llaeth, gwridocach oeddynt o gorff na'r cwrel, a'u trwsiad oedd o saffir.
8
Duach yw yr olwg arnynt na'r glöyn; nid adwaenir hwynt yn yr heolydd: eu croen a lŷn wrth eu hesgyrn; gwywodd, aeth yn debyg i bren.
9
Gwell yw y rhai a laddwyd â chleddyf, na'r rhai a laddwyd â newyn; oblegid y rhai hyn a ddihoenant, wedi eu trywanu o eisiau cnwd y maes.
10
Dwylo gwragedd tosturiol a ferwasant eu plant eu hun: eu hymborth oeddynt yn ninistr merch fy mhobl.
11
Yr ARGLWYDD a gyflawnodd ei ddicter, a dywalltodd lidiowgrwydd ei soriant, ac a gyneuodd dân yn Seion, yr hwn a ddifaodd ei seiliau hi.
12
Ni choeliasai brenhinoedd y ddaear, na holl drigolion y byd, y deuai y gwrthwynebwr a'r gelyn i mewn i byrth Jerwsalem.
13
Am bechodau ei phroffwydi, ac anwiredd ei hoffeiriaid, y rhai a ollyngasant waed y rhai cyfiawn o'i mewn hi;
14
Gwibiasant fel deillion yn yr heolydd, ac ymddifwynasant gan waed, fel na ellid cyffwrdd â'u dillad hwynt.
15
Gwaeddasant arnynt, Ciliwch; aflan yw; ciliwch, ciliwch, na chyffyrddwch; pan ffoesant, ac yr aethant ymaith. Dywedent ymysg y cenhedloedd, Ni thrigant hwy yma mwyach.
16
Soriant yr ARGLWYDD a'u gwasgarodd hwynt; nid edrych efe arnynt mwy: ni pharchent hwy yr offeiriaid, ni thosturient wrth yr hynafgwyr.
17
Ninnau hefyd, ein llygaid a ballasant am ein cynhorthwy ofer: gan ddisgwyl disgwyl yr oeddem ni wrth genhedlaeth ni allai ein hachub.
18
Hwy a olrheiniant ein cerddediad, fel na allwn fyned ar hyd ein heolydd: y mae ein diwedd ni yn agos, ein dyddiau ni a gyflawnwyd; canys daeth ein diwedd ni.
19
Buanach yw ein herlidwyr nag eryrod yr awyr; y maent yn ein herlid ni ar y mynyddoedd, yn ein cynllwyn yn yr anialwch.
20
Anadl ein ffroenau, eneiniog yr ARGLWYDD, a ddaliwyd yn eu rhwydau hwynt, am yr hwn y dywedasem, Dan ei gysgod ef y byddwn ni byw ymysg y cenhedloedd.
21
Bydd lawen a hyfryd, merch Edom, yr hon wyt yn trigo yn nhir Us: daw y cwpan atat tithau hefyd; ti a feddwi, ac a ymnoethi.
22
Gorffennwyd dy gosbedigaeth di, merch Seion; ni chaethgluda efe di mwy: efe a ymwêl â'th anwiredd di, merch Edom; efe a ddatguddia dy bechodau.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5